Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Astudio meddygaeth yn ddwyieithog
Astudio meddygaeth yn ddwyieithog

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Sut ydw i’n gwneud cais i astudio meddygaeth?

Download this video clip.Video player: medicine_welsh_1_teacher.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae sawl llwybr i astudio meddygaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Caerdydd yw’r unig brifysgol lle gallwch astudio meddygaethyn ddwyieithog ar lefel israddedig. Gallwch hefyd wneud cais i astudio meddygaeth i raddedigion ym Mhrifysgol Abertawe lle cynigir rhyw faint o’r ddarpariaeth yn ddwyieithog. Gallwch...

  • Wneud cais yn syth o Lefel A
  • Wneud cais gyda gradd arall
  • Ddechrau gyda gradd borthi, e.e. gwyddorau biofeddygol

Peidiwch â rhoi’r gorau iddi os nad yw’r cymwysterau TGAU angenrheidiol gennych - gydag ychydig o ddyfalbarhad gallwch wireddu eich breuddwyd o astudio meddygaeth.

I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am y gofynion academaidd er mwyn cael mynediad, gwnewch yn siŵr eich bod yn edrych ar-lein neu cysylltwch ag Ysgol Feddygaeth Caerdydd ar medadmissions@cardiff.ac.uk [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] i gael sgwrs am eich sefyllfa. Byddwch yn cael eich derbyn i astudio meddygaeth ar sail tri sgôr:

  • Cymwysterau academaidd
  • Cymwysterau nad ydynt yn rhai academaidd
  • Cyfweliad

Rhoddir ystyriaeth i achosion eithriadol ar sail achos wrth achos.

Yn ogystal â’r cymwysterau academaidd angenrheidiol, asesir ymgeiswyr yn ôl nifer o feini prawf eraill nad ydynt yn rhai academaidd. Bydd angen i chi fedru dangos i’r detholwyr fod gennych:

  • Ddealltwriaeth o feddygaeth fel gyrfa, e.e. drwy brofiad gwaith
  • Agwedd ofalgar a synnwyr o ymwybyddiaeth gymdeithasol, e.e. drwy waith gwirfoddol mewn hosbis
  • Synnwyr o gyfrifoldeb, e.e. drwy rôl megis capten tîm neu bennaeth cymdeithas
  • Agwedd gytbwys tuag at fywyd, e.e. bod â diddordebau ar wahân i’ch astudiaethau
  • Tystiolaeth o ddysgu annibynnol, e.e. Ymchwiliad Unigol y Fagloriaeth
  • Sgiliau gweithio mewn tîm, e.e. drwy fod yn aelod o glwb

Y peth pwysig yw’r hyn yr ydych wedi’i ddysgu drwy’r profiadau hyn, a’r gallu i fynegi mewn geiriau'r hyn sydd wedi eich ysgogi i ddilyn gyrfa mewn meddygaeth.