Gweld y maint llawn
Ynglŷn â'r gwaith hwn
Mae’r paentiad dyfrlliw hwn yn cyflwyno tableaux atgofus o dad a merch yn edrych i lawr ar bwll glo. Mae’r cynffonau yng ngwallt y ferch yn pwysleisio ei hieuenctid ond mae ei chôt a’i het hen ffasiwn yn awgrymu oed yr olygfa. Dros y rheiliau, mae pen y pwll gyda’i olwyn droellog yn codi uwchben y llinell o goed yn y cefndir. Fodd bynnag mae'r dewis o’r prif liwiau brown a llwyd yn gwneud i’r pwll glo ymddangos yn rhan o’r cwm yn hytrach nag ychwanegiad estron. Mae’r palet cynnil hwnnw yn trwytho pob rhan o’r paentiad; y pwll glo, y bryniau yn y cefndir, y rheiliau a’r ffordd, yn ogystal â’r ferch y tu ôl i'w thad. Efallai ei fod yn gynrychiolaeth o’r llygredd a ddaeth yn sgil diwydiant, ond mae hefyd yn rhoi synnwyr o oedran a’r pellter amser drwy ddod â lliwiau sepia hen lun i'r meddwl. Peintiwyd y llun gyda dyfrlliwiau prosiect Colour from the Mines.
Rhoddodd Angharad ei hun gipolwg i ni ar o’i hysbrydoliaeth ar gyfer yr olygfa: Crëwyd y llun gyda fy mam a fy mrawd mewn golwg. Er cof am y dynion yn ein teulu a fu farw yn llawer yn rhy fuan, a’r merched cryf a adawyd i ddal ati. Mae’r llun yn fy nghynrychioli i a fy nhad, Jim, yn cerdded i lawr Victoria Road, ble byddem yn stopio i mi gael galw ‘Helô’ ar yr holl ddynion yn y pwll glo. Nid oes gan fy mam atgofion tebyg o’i thad, William Henry Jones, gan ei fod wedi marw yn 1928 yn dilyn damwain yn y pwll glo - roedd fy mam yn iau na 18 mis oed.’
Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.
Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol
Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn
Graddau y Cwrs
Graddiwch yr erthygl hon
Adolygwch yr erthygl hon
Mewngofnodi i OpenLearn i adael adolygiadau ac ymuno â'r sgwrs.
Adolygiadau ar gyfer yr Erthygl hon