Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Mwy o gelf – Blaenau Gwent REACH

Diweddarwyd Dydd Llun, 3 Ebrill 2023

Detholiad o waith celf gan gyfranogwyr BG REACH.

‘Girl with the Pearl Earring’, Philip Hughes


‘Girl with the Pearl Earring’, Philip Hughes

Gweld y maint llawn


Mae llun Philip yn deyrnged i’r ‘Girl with a Pearl Earing’ gwreiddiol o’r ail ganrif ar bymtheg, sef paentiad olew gan yr arlunydd o’r Iseldiroedd, Johannes Vermeer. Un o nodweddion mwyaf enwog y gwreiddiol yw’r ffordd mae’r ferch yn syllu’n uniongyrchol o’r llun mewn modd enillgar o agored. Mae fersiwn Philip yn defnyddio llinell edrych y ferch yn yr un ffordd, i greu ymdeimlad o agosrwydd rhyngddi hi a’r person sy’n edrych ar y llun. Yn ogystal â hynny, drwy gyflwyno’r dechneg o rwbio, mae hefyd yn llwyddo i gyfleu ymdeimlad argraffiadol o wead. Mae’n ei wahaniaethu o’r paentiad gwreiddiol y mae'n ceisio ei ail-greu. 


‘Portrait of Ann’, Helen Thomas


‘Portrait of Ann’, Helen Thomas

Gweld y maint llawn


Mae Helen yn cynnig golwg newydd ar baentiad L. S Lowry, ‘Portrait of Ann’, a grëwyd yn yr 1950au hwyr. Mae fersiwn Helen yn cipio ymdeimlad arddulliedig, anhraddodiadol, y gwreiddiol. Mae Ann yn syllu’n uniongyrchol o’r paentiad atom, gyda’i phen a’i hysgwyddau’n ein hwynebu’n syth. Mae’r effaith yn hoelio ein sylw.  Ond, er gwaethaf uniongyrchedd ei ffrâm a’i hosgo, yn llun Helen, mae Ann yn ymddangos ychydig yn bell oddi wrthym ni. Mae hynny, yn rhannol, oherwydd natur aneglur y cefndir, yn ogystal â’r ffordd mae'r dechneg rwbio yn ymyrryd â’n golwg arni. Mae fel petai hi’n edrych arnom drwy ffenestr fudr, neu efallai o ochr arall i ddrych wedi torri.


‘Self-Portrait as the Allegory of Painting’, Deborah Burgess


‘Self-Portrait as the Allegory of Painting’, Deborah Burgess

Gweld y maint llawn


Mae Deborah yn cyflwyno addasiad o ‘Self-Portrait as the Allegory of Painting’ gan yr artist Eidalaidd o’r ail ganrif ar bymtheg, Artemisia Gentileschi. Ar un lefel, gallwch ddehongli’r llun fel portread annadleuol o ferch ifanc, aristocrataidd, sy’n ymgymryd â hobi artistig. Fodd bynnag, mae’r ffaith ei fod yn hunan-bortread, yn gwrth-ddweud hynny. Roedd Gentileschi yn artist proffesiynol mewn oes pan oedd merched, ar y cyfan, yn cael eu heithrio o drywydd cyhoeddus y celfyddydau. Mae dehongliad Deborah o’r gwreiddiol wedi cipio agosrwydd y gwreiddiol yn dda. Mae’r gwddf a breichiau noeth, yr ymdeimlad bod y testun wedi’i chipio wrth greu, yn rhoi ymdeimlad o wylio, efallai hyd yn oed ymyrryd ar olygfa breifat.



BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?