Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Rhyddiaith fer – 'Silver Girl'

Diweddarwyd Dydd Mercher, 7 Gorffennaf 2021

Darn byr o ryddiaith gan Katharine Marquis yw 'Silver Girl'. Fe'i hysgrifennwyd mewn gweithdy ysgrifennu creadigol a gynhaliwyd gan brosiect Blaenau Gwent REACH yng Nghanolfan Gymunedol Aberbîg yng ngwanwyn 2020.

'Silver Girl'

Gan Katharine Marquis

Horse is lame, Squire, told ‘ee so. T’is that lad, Jack. Too much feed: touch of laminitis!

You’re sure John. That mare will have to be sold. Can’t harness a lame horse! Got customers to keep happy.

You be gittin’ rid of Jack afore yer touch Silver Girl: stable lads a plenty out there. She’s a good’un. Git that mare shipshape an’ cut the feed. She’ll sit between the shafts a couple more years an’ you got yourself a flippin’ good brood mare. She stands nice and square. An’ flat knees too. Billy Boy was cut a fortnight ago. Git him workin’ cos ‘ees shapin’ up fine. ‘ees a good mover. No dishin’. Nice ‘un. Git some muscle goin’. Tidy feet ‘n no crackin’.

I can’t get rid of Jack just like that. He’s an orphan. Depends on me.

Git him busy muckin’ out. Cleanin’ the carriage. Gittin’ the wood. ‘E’ll learn. Silver Girl just ain’t for sellin’! I goes before her does an’I ain’t goin’ nowheres soon!

Canllaw

'Laminitis' – clefyd a all effeithio ar geffylau a gwartheg yw laminitis. Mae'r arwyddion clinigol yn cynnwys carnau dolurus sy'n arwain at gloffni a all waethygu fel na all yr anifail gerdded mwyach, ymhlith cyflyrau eraill. Ni ddylai ceffylau na merlod sy'n dueddol o gael laminitis gael eu gorfwydo na chael gormod o wair.

'Shafts' – caiff y rhain eu defnyddio i glymu cart â dwy olwyn neu bedair olwyn â cheffyl.

'Brood mare' – caseg a gedwir er mwyn bridio.

'Cut' – disbaddu.

'Dishing' – symudiad anwastad a diffygiol yn y carnau blaen.

'Tidy feet ‘n no crackin’' – er bod y rhan fwyaf o graciau mewn carnau yn arwynebol, gall ceffylau fynd yn gloff os bydd craciau dwfn yn eu carnau yn cyrraedd y rhannau mewnol sensitif.

Ynglŷn â'r gwaith hwn


Mae darn byr o ryddiaith Katharine, ‘Silver Girl’, yn ein tywys i galon treftadaeth amaethyddol y Cwm. Wedi'i ysgrifennu ar ffurf sgwrs, cawn gipolwg ingol ar hanes ceffyl fferm cloff, Silver Girl, a'r bachgen amddifad, Jack, sy'n gofalu amdani, yn rhy dda. Er mai darn byw ydyw, mae'r lleisiau'n cyfleu emosiwn ac ymrwymiad teimladwy i'r anifail a'r bachgen.

Cryfder y darn yw ei gynildeb, sy'n galluogi'r ddau lais sy'n siarad i gael eu clywed mewn ffordd mor bwerus. Mae defnydd Katharine o dafodiaith yn helpu i bortreadu'r siaradwyr, gan ein galluogi i'w hasesu a'u dychmygu. Mae hefyd yn rhoi naws hiraethus i'r darn, gan dywys y darllenydd i gyfnod sydd wedi mynd yn angof erbyn hyn, pan fu dyn ac anifail yn gweithio mewn cytgord i drin y tir. Mae rhestr wybodaeth Katharine yn ategiad defnyddiol i'r olygfa, gan roi cipolwg manwl ac addysgiadol i'r darllenydd modern ar oes a fu.


BG REACH exhibition logo / Logo arddangosfa BG REACH

Mae'r dudalen hon yn rhan o arddangosfa ar-lein Blaenau Gwent REACH.

Ffilm a sain | Ysgrifennu creadigol | Celf weledol

Straeon digidol | Hanes Blaenau Gwent | Ynglŷn â'r prosiect hwn

 

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Sgorau a Sylwadau

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Gwybodaeth hawlfraint

Hepgor Graddau y Cwrs

Am ragor o wybodaeth, edrychwch ar ein cwestiynau cyffredin a all roi'r cymorth sydd ei angen arnoch chi.

Oes gennych chi gwestiwn?