Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

7 Crynodeb Wythnos 3

Mae’r berthynas gymhleth rhwng mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yn hynod fuddiol, ac mae’n cynnig gwobrau sylweddol o ran datblygiad proffesiynol y sawl sy’n cael ei fentora a’r mentor. Wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa ddatblygu i ymgymryd â rôl lawn athro, gellid galw’r rôl mae mentor yn ei gymryd yn fwy penodol yn rôl hyfforddi – ac mae ystyr hyn wedi’i drafod yr wythnos hon.

Fel rhan o drafod deialog hyfforddi, pwysleisiwyd y sgiliau allweddol o ofyn y cwestiynau cywir yn y ffordd gywir a gwrando ar yr ateb. Pan mae mentora neu hyfforddi yn cael ei wneud yn fwriadol ac yn empathig, mae ganddo’r gallu i ysbrydoli’r athro ar ddechrau ei yrfa, ac ysgogi’r awydd i fynd ymlaen gyda’i addysgu a’r proffesiwn.

Gallwch nawr fynd ymlaen i Wythnos 4.