Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Cynllunio dyfodol gwell
Cynllunio dyfodol gwell

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

Strwythur y cwrs

Mae'r cwrs hwn wedi'i rannu'n dri bloc, gyda phob un ohonynt yn canolbwyntio ar agwedd benodol ar gynllunio dyfodol gwell:

  1. Sut y gwnes i gyrraedd yma? [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] , sy'n eich helpu i ystyried eich sefyllfa drwy ystyried y rolau rydych yn eu chwarae mewn bywyd, myfyrio ar brofiadau cadarnhaol a negyddol, cydnabod yr hyn rydych wedi'i gyflawni a nodi eich cryfderau, gwendidau a'r cyfleoedd a'r bygythiadau rydych yn eu hwynebu.
  2. I ble rwyf am fynd?, sy'n eich helpu i symud ymlaen drwy ystyried y newidiadau rydych am eu gwneud, casglu gwybodaeth, ystyried yr opsiynau sydd ar gael, gwneud penderfyniadau da a diffinio a mireinio eich nodau.
  3. Sut gallaf gyrraedd yno?, sy'n eich helpu i wneud penderfyniadau cadarn, pennu nodau realistig a chreu cynlluniau gweithredu y mae'n bosibl eu cyflawni. Byddwch hefyd yn cael cyngor defnyddiol ar y broses recriwtio, sut i gwblhau ceisiadau am swyddi, ysgrifennu CV a llythyrau eglurhaol, a pharatoi ar gyfer cyfweliadau a'r hyn sy'n deillio ohonynt.

Gellir ystyried y blociau yn broses barhaus sy'n cynnwys pwyso a mesur, archwilio cyfleoedd, pennu nodau a gweithredu (gweler Ffigur 1).

Described image
Figure _unit1.3.1 Ffigur 1 Y broses o gynllunio ar gyfer dyfodol gwell

Gyda'i gilydd, maent yn cyfateb i tua 15 awr o amser astudio. Mae pob bloc yn cynnwys cymysgedd o ddeunydd darllen, clipiau fideo, gweithgareddau a chwisiau a fydd yn eich helpu i ymgysylltu â chynnwys y cwrs.

Bydd adran ychwanegol, Datblygu'r hyn rwyf wedi'i ddysgu ymhellach, yn eich galluogi i fyfyrio ar hyn rydych wedi'i ddysgu ar y cwrs hwn.Bydd yr adran yn eich cyfeirio hefyd at wefannau ac adnoddau perthnasol sy'n ymwneud â datblygu eich dysgu a'ch rhagolygon gyrfa.

Unwaith y byddwch wedi astudio bloc, gofynnir i chi gwblhau cwis ar-lein byr o hyd at bum cwestiwn fesul bloc. Mae'r cwis hwn yn helpu i brofi'r hyn rydych wedi'i ddysgu a'i ymgorffori.

Nod Cynllunio dyfodol gwell yw eich galluogi i ddefnyddio'r adnoddau fel y mynnoch, fel eich bod yn gallu astudio fesul tipyn er mwyn cyd-fynd â'ch ymrwymiadau gwaith a bywyd. Os byddwch yn dewis cwblhau pob un o flociau Cynllunio dyfodol gwell ac yn casglu bathodyn, gallwch lawrlwytho datganiad cyfranogi sy'n cydnabod yr hyn rydych wedi'i gyflawni. Gallai hyn fod o ddefnydd i chi ddangos i'ch cyflogwr fel tystiolaeth o'r hyn rydych wedi'i ddysgu. I gael rhagor o wybodaeth am sut i ennill eich bathodynnau, darllenwch Beth yw bathodyn?

Llywio'r wefan

Er mwyn dod o hyd i'ch ffordd o amgylch y cwrs hwn, cliciwch ar y dolenni. Mae'r hafan yn cynnwys dolenni i'r holl flociau, cwisiau ac adnoddau perthnasol. Pan fyddwch mewn bloc, bydd gan y ddewislen ar yr ochr chwith ddolenni i'r pynciau yn y bloc hwnnw a'i gwis cysylltiedig. Mae'r ddewislen hefyd yn cynnwys dolenni i adrannau eraill o Cynllunio dyfodol gwell a'r adran adnoddau.

Os nad ydych yn siŵr, symudwch eich llygoden dros un o'r dolenni yn y ddewislen a chlicio arni. Dyma'r ffordd hawsaf o symud o dudalen i dudalen. Gallwch hefyd glicio ar y ddolen 'Nesaf' ar ddiwedd pob tudalen o destun. Peidiwch â phoeni am dorri dolen neu ddifrodi'r dudalen we - mae'n amhosibl gwneud hynny. Rhowch gynnig arni cyn gynted â phosibl cyn i chi ddechrau astudio.