15 Crynodeb o Sesiwn 1
Gall penderfyniadau am wario arian – yn enwedig ar bryniannau mawr – eich rhoi o dan ddylanwadau a phwysau amrywiol, boed gan gymdeithas neu gennych chi eich hun. Mae rhai o’r rhain yn deillio o’n personoliaeth a’n nodweddion ymddygiad. Daw rhai dylanwadau o bwysau cymdeithasol a thactegau marchnata’r rheini sydd eisiau gwerthu i ni.
Gall yr holl ddylanwadau hyn arwain at wneud penderfyniadau gwario gwael.
Er mwyn cymryd rheolaeth, rhaid cael methodoleg ddiduedd i’n helpu. Mae’r model pedwar cam yn darparu hyn drwy nodi beth sydd angen ei wneud wrth wneud pryniannau mawr.
Buoch yn edrych ar y ffordd y gall y model helpu i wneud penderfyniadau da wrth brynu cynnyrch yswiriant – rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o gartrefi’n ei wneud sawl gwaith y flwyddyn.
Rydych chi hefyd wedi edrych ar siopa ar y rhyngrwyd ac awgrymiadau i adnabod ac osgoi’r sgamiau sydd i’w cael ar-lein, a ffyrdd o siopa’n fwy diogel ar y we.
Felly, dylai’r sesiwn hon fod wedi gwneud i chi fod yn fwy ymwybodol o sut a pham rydych chi’n gwario eich arian ac yn fwy medrus wrth wneud penderfyniadau ystyriol ynghylch beth i’w brynu.
Dolenni darllen pellach
Darllenwch flog MoneySavingExpert.com Scam blog [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .
Dysgu rhagor am wefannau copycat.
Dechrau arni gyda Sesiwn 2: Cyllidebu a threthi.