Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Academi Arian MSE
Academi Arian MSE

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

13 Crynodeb o Sesiwn 2

Rydych chi wedi dysgu llawer o bethau yn y sesiwn hon, gan edrych ar:

  • sut mae gwahaniaethu rhwng gwariant hanfodol, dymunol, a ddim yn hanfodol
  • sut mae llunio eich cyllideb eich hun, gan ystyried eich holl ffynonellau incwm a’ch gwariant
  • sut mae rheoli’ch cyllideb – yn enwedig os yw gwariant yn fwy nag incwm.
  • sut caiff treth incwm a Chyfraniadau Yswiriant Gwladol (YG) eu cyfrifo

Mae sgiliau rheoli cyllideb effeithiol yn hanfodol bwysig er mwyn sicrhau eich bod yn rheoli’ch arian yn dda. Mae’n well gwneud penderfyniadau ariannol allweddol eraill – ynglŷn â benthyca arian, cael morgais, cynilo ar gyfer y dyfodol ac ar gyfer pensiwn – pan ydych chi wedi sefydlu’r sylfaen ddiogel hon i’ch cyllid.

Nawr, fe allwch chi ddefnyddio’r sgiliau hyn yng ngweddill y cwrs, a gynhyrchwyd gan y Brifysgol Agored mewn cydweithrediad â MoneySavingExpert.com.

Dysgu mwy am gyllidebu a threthi

Gall y dolenni canlynol eich helpu chi i ddysgu mwy am y pynciau rydych chi wedi mynd i'r afael â nhw yn y sesiwn hon.

Dysgwch fwy am gyfrifo didyniadau treth ar eich incwm gan ddefnyddio cyfrifiannell dreth MoneySavingExpert [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .

Dysgwch fwy am godau treth gan ddefnyddio canllaw MoneySavingExpert.

I gael mwy o wybodaeth am lenwi ffurflen dreth, ewch i weld canllaw MoneySavingExpert ar hunanasesu

Gallai’r ddwy wefan yma gan CThEM fod yn ddefnyddiol i chi. Maen nhw’n darparu canllawiau ar bwy sydd angen llenwi ffurflen dreth ac ar sut mae cofrestru i gyflwyno ffurflenni treth incwm ar-lein.

Ewch i wefan MoneySavingExpert i gael gwybod mwy am gynllunio arian a chyllidebu.

Ewch i wefan MoneySavingExpert os hoffech gael help i ddeall y newyddion diweddaraf a'r opsiynau o ran eich biliau nwy a thrydan.

Dechrau arni gyda Sesiwn 3: Benthyca arian.