1.2 Dehongli atebion wrth rannu
Ar ôl gwneud cyfrifiad rhannu, efallai na fydd gennych ateb sy’n addas.
Er enghraifft, pe baech chi mewn bwyty ac angen rhannu bil £126.49 rhwng pedwar o bobl, yn gyntaf byddech yn cyfrifo’r rhaniad £126.49 ÷ 4 = £31.6225. Yn amlwg, ni allwch dalu’r union swm hwn, felly byddem yn ei dalgrynnu i £31.63 er mwyn sicrhau y caiff y bil cyfan ei dalu.
Mewn sefyllfaoedd eraill, mae’n bosibl y bydd angen ichi dalgrynnu ateb i lawr. Pe baech chi’n torri hyd o bren 2 m (200 cm) o hyd yn ddarnau llai 35 cm o hyd, byddech yn gwneud y cyfrifiad 200 ÷ 35 i gychwyn. Byddai hyn yn rhoi’r ateb 5.714... Gan mai dim ond 5 darn o bren 35 cm o hyd y gallwch eu torri, mae angen ichi dalgrynnu’ch ateb sef 5.714 i lawr i 5 yn syml.
Box _unit2.1.1
Noder: Nod o’r enw ‘elipsis’ yw’r tri atalnod llawn a ddefnyddir yn yr ateb uchod (5.714...). Mewn mathemateg, caiff ei ddefnyddio i gynrychioli rhifau degol cylchol, fel nad oes rhaid ichi eu dangos nhw i gyd.
Activity _unit2.1.4 Gweithgaredd 4: Dehongli atebion
Cyfrifwch yr atebion i’r cwestiynau canlynol. Penderfynwch a oes angen talgrynnu’r atebion i fyny neu i lawr ar ôl cyfrifo’r swm rhannu.
Caiff afalau eu pacio i focsys o 52. Mae angen pacio 1500 o afalau. Faint o focsys mae eu hangen?
Mae 1000 g o flawd mewn sach. Mae angen 150 g o flawd ar gyfer pob swp o deisennau. Faint o sypiau allwch chi eu gwneud?
Caiff plentyn £2.50 o arian poced yr wythnos. Mae eisiau prynu gêm i’r cyfrifiadur sy’n costio £39.99. Faint o wythnosau fydd angen iddo gynilo er mwyn prynu’r gêm?
Mae hyd o bibell copr yn mesur 180 cm. Faint o ddarnau llai yn mesur 40 cm yr un y gellir eu torri o’r bibell?
Ateb
1500 ÷ 52 = 28.846 rhaid talgrynnu hwn i fyny i 29 o focsys.
1000 ÷ 150 = 6.666 rhaid talgrynnu hwn i lawr i 6 swp.
£39.99 ÷ £2.50 = 15.996 rhaid talgrynnu hwn i fyny i 16 o wythnosau.
180 ÷ 40 = 4.5 rhaid talgrynnu hwn i lawr i 4 darn.