Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.3 Ymdrin â degolion

Rydym yn ymdrin â degolion yn aml mewn bywyd pob dydd, er enghraifft, cyfrifiadau’n ymwneud ag arian.

Rhowch gynnig ar y canlynol (heb gyfrifiannell) i wirio’ch sgiliau. Ar gyfer y gweithgaredd hwn, bydd angen ichi roi’ch atebion yn llawn, a dim ond eu talgrynnu neu eu cymhwyso os oes angen. Os oes angen eich atgoffa sut i wneud unrhyw un o’r cyfrifiadau, cyfeiriwch yn ôl at Mathemateg Pob dydd 1.

Activity _unit2.1.5 Gweithgaredd 5: Cyfrifiadau gyda degolion

  1. 54.865 + 4.965 + 23.519

  2. 6.938 − 5.517

  3. 25 + 0.258

  4. 54 − 0.65

  5. 5.632 × 2.4

  6. 1.542 × 1.9

  7. 42.4 ÷ 4

  8. 39.45 ÷ 1.5

  9. 0.48 ÷ 0.025

  10. Mae ffatri’n archebu 425 o gasgedi sy’n pwyso 2.3 g yr un. Beth yw cyfanswm pwysau’r gasgedi?

  11. Mae peiriant dosbarthu yn dal 15.5 litr o ddŵr. Faint o gwpanau 0.2 litr llawn allwch chi eu cael o un peiriant dosbarthu?

  12. Mae Ahmed a Lea yn cymryd rhan yn y naid hir. Mae eu canlyniadau fel a ganlyn:

    • Ahmed 5.501 m

      Lea 5.398 m

      Pwy neidiodd y pellter hiraf ac o faint?

Ateb

  1. 83.349

  2. 1.421

  3. 25.258

  4. 53.35

  5. 13.5168

  6. 2.9298

  7. 10.6

  8. 26.3

  9. 19.2

  10. 977.5 g

  11. 77.5 (77 o gwpanau llawn)

  12. Ahmed neidiodd y pellter hiraf o 0.103 m

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • ailedrych ar sut i wneud cyfrifiadau gyda rhifau cyfan a degolion

  • dysgu i addasu atebion lle bo angen

  • dysgu sut i fynegi gweddill fel degolyn.