Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10 Cymhareb

Fel y gallwch weld o Ffigur 14, mae cymhareb yn rhan bwysig o fywyd pob dydd.

Described image
Figure _unit2.10.1 Ffigur 14 Cymhareb ddyddiol

Mae’n bwysig deall sut i ddweud pa ran o’r gymhareb yw p’un. Er enghraifft, os oes gennych grŵp o ddynion a menywod yn y gymhareb 5:4, gan y soniwyd am y dynion yn gyntaf, nhw yw rhan gyntaf y gymhareb.

Mae trefn y gymhareb yn bwysig iawn. Ystyriwch y canlynol:

Extract _unit2.10.1

Mae Julia’n mynd i glwb drama lle mae 100 o’r aelodau’n ddynion a 150 o’r aelodau’n fenywod. Beth yw’r gymhareb o fenywod i ddynion yn y clwb drama?

Nodwch fod y wybodaeth mae arnoch ei hangen i ateb y cwestiwn wedi’i rhoi yn y drefn y ffordd arall i’r un y gofynnir amdani yn yr ateb. Mae’n bwysig iawn eich bod yn rhoi rhannau’r gymhareb yn y drefn gywir.

Y gymhareb o fenywod i ddynion yw 150:100

Os gofynnir ichi am y gymhareb o ddynion i fenywod, yr ateb fyddai 100:150