Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

10.2 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir y cyfanswm

Y ffordd orau ichi ddeall sut i ddatrys y problemau hyn yw edrych ar yr enghraifft wedi’i chyfrifo yn y fideo isod.

Download this video clip.Video player: s1_10.2_ratio.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Activity _unit2.10.2 Gweithgaredd 25: Problemau cymhareb lle mae’r cyfanswm yn hysbys

Ceisiwch ddatrys y problemau cymhareb hyn:

  1. I wneud morter, mae angen ichi gymysgu tywod meddal a sment yn y gymhareb 4:1. Mae angen ichi wneud 1500 g o forter.

    Faint o dywod meddal fydd arnoch ei angen?

Ateb

  1. Adiwch rannau’r gymhareb:

    • 4 + 1 = 5

    Rhannwch y cyfanswm mae ei angen â swm rhannau’r gymhareb:

    • 1500 g ÷ 5 = 300 g

    Gan fod tywod meddal yn 4 rhan, rydym angen 300 g × 4 = 1200 g o dywod meddal..

    Gwiriwch drwy weithio allan faint o sment mae arnoch ei angen. Mae sment yn 1 rhan felly byddai angen 300 g:

    • 1200 g + 300 g = 1500 g sef y cyfanswm cywir.
  1. I wneud y coctel ffug ‘Awel y Môr’, mae angen ichi gymysgu sudd llugaeron a sudd grawnffrwyth yn y gymhareb 4:2.

    Rydych chi eisiau gwneud cyfanswm o 2700 ml o’r coctel. Faint o sudd grawnffrwyth ddylech chi ei ddefnyddio?

Ateb

  1. Adiwch rannau’r gymhareb:

    • 4 + 2 = 6

    Rhannwch y cyfanswm mae ei angen â swm rhannau’r gymhareb:

    • 2700 ml ÷ 6 = 450 ml

    Gan fod sudd grawnffrwyth yn 2 ran, rydym yn gwneud 450 ml × 2 = 900 ml o sudd grawnffrwyth..

    Gwiriwch drwy weithio allan faint o sudd llugaeron fyddech chi’n ei ddefnyddio:

    • 4 × 450 = 1800

      1800 ml + 900 ml = 2700 ml

      Efallai y byddwch wedi symleiddio’r gymhareb i 2:1 cyn gwneud y cyfrifiad, ond byddwch yn gweld bod eich atebion yr un peth â’n rhai ni.

  1. Mae cyfarwyddiadau cymysgu paent Barrug y Bore yn gofyn am 150 ml o baent glas, 100 ml o baent llwyd golau a 250 ml o baent gwyn.

    Faint o baent llwyd golau fyddai arnoch ei angen i wneud 5 litr o baent Barrug y Bore?

Ateb

  1. Dechreuwch drwy fynegi’r gymhareb ac yna ei symleiddio:

    • 150:100:250 sy’n symleiddio i 3:2:5 = 10 rhan
    • 5 litr = 5000 ml (mae trosi i ml yn gwneud ei gyfrifo’n haws).

    Rhannwch y cyfanswm mae ei angen â swm rhannau’r gymhareb:

    • 5000 ÷ 10 = 500 felly 1 rhan = 500 ml
    • Mae llwyd golau’n 2 ran:

           2 × 500 = 1000 ml neu 1 litr

    Gwirio:

    • mae glas yn 3 rhan: 3 × 500 = 1500 ml neu 1.5 litr
    • mae gwyn yn 5 rhan: 5 × 500 = 2500 ml neu 2.5 litr
    • 1000 + 1500 + 2500 = 5000 ml neu 5 litr
  1. Rydych eisiau gwneud 14 litr o ddiod ffrwythau ar gyfer parti i blant. Mae label y crynodiad yn dweud bod angen ei gymysgu â dŵr yn y gymhareb 2:5.

    Faint o grynodiad fyddwch chi’n ei ddefnyddio?

Ateb

  1. Adiwch rannau’r gymhareb:

    • 2 + 5 = 7

    Rhannwch gyfanswm y maint mae ei angen â swm rhannau’r gymhareb:

    • 14 litr ÷ 7 = 2 litr felly 1 rhan = 2 litr

    (Noder: roedd y cyfrifiad hwn yn un syml felly nid oedd angen trosi i ml).

    Gan fod y crynodiad yn 2 ran, bydd angen 2 litr × 2 = 4 litr o grynodiad..

    Gwirio:

    • Mae dŵr yn 5 rhan:
    •      5 × 2 litr = 10 litr
    • 4 + 10 = 14 litr.
  1. Mae dyn yn gadael £8400 yn ei ewyllys, i’w rhannu rhwng 3 elusen:

    • Ymddiriedolaeth y Cŵn, RNLI ac Ymchwil MacMillan yn y gymhareb 3:2:1.

    Faint o arian fydd pob elusen yn ei gael?

Ateb

  1. Adiwch rannau’r gymhareb:

    • 3 + 2 + 1 = 6

    Rhannwch y cyfanswm mae ei angen â swm rhannau’r gymhareb:

    • £8400 ÷ 6 = 1400
    •   –  Mae Ymddiriedolaeth y Cŵn yn cael 3 rhan: 3 × £1400 = £4200
    •   –  Mae’r RNLI yn cael 2 ran: 2 × £1400 = £2800
    •   –  Mae Ymchwil MacMillan yn cael 1 rhan felly: £1400
    • Gwirio:

            4200 + 2800 + 1400 = £8400

Nesaf byddwch yn edrych ar broblemau cymhareb lle mae cyfanswm un rhan o’r gymhareb yn hysbys.