10.3 Datrys problemau cymhareb lle rhoddir cyfanswm un rhan o’r gymhareb
Edrychwch ar yr enghraifft wedi’i chyfrifo isod:
Extract _unit2.10.2
Rydych chi’n tyfu tomatos. Mae’r cyfarwyddiadau ar y bwyd tomatos yn dweud:
- Defnyddiwch 1 rhan o’r bwyd i 4 rhan o ddŵr
Os ydych yn defnyddio 600 ml o ddŵr, faint o fwyd tomatos ddylech chi ei ddefnyddio?
Mae’r cwestiynau hyn yn gwneud llawer mwy o synnwyr os edrychwch arnyn nhw’n weledol:
Extract _unit2.10.4
Nawr gallwch weld yn glir bod 600 ml o ddŵr yn werth 4 rhan o’r gymhareb. I ganfod un rhan o’r gymhareb, mae angen ichi wneud:
- 600 ml ÷ 4 = 150 ml
Gan mai dim ond 1 rhan yw’r bwyd, rhaid ei fod yn 150 ml. Os oedd y bwyd yn fwy nag un rhan, byddech yn lluosi 150 ml â nifer y rhannau.
Fel yn y math blaenorol o gwestiwn, mae angen ichi geisio gweithio allan gwerth 1 rhan. Gellir gweithio allan gwerth unrhyw nifer arall o rannau o hyn.
Activity _unit2.10.3 Gweithgaredd 26: Problemau cymhareb lle rhoddir un rhan
Ymarferwch eich sgiliau trwy roi cynnig ar y problemau cymhareb isod:
Mae rysáit yn dweud bod angen defnyddio blawd a menyn yn y gymhareb 3:5. Defnyddir 700 g o fenyn.
Faint o flawd fydd ei angen?
Wrth ofalu am blant rhwng 7 a 10 oed, rhaid i’r gymhareb oedolion i blant fod yn 1:8.
- a.Ar gyfer grŵp o 32 o blant, faint o oedolion mae eu hangen?
- b.Os oedd un plentyn arall yn y grŵp, sut fyddai hyn yn effeithio ar nifer yr oedolion mae eu hangen?
Ateb
- Oedolion:Plant
- a.
I ganfod un rhan, rydych yn gwneud 32 ÷ 8 = 4.
Gan mai dim ond 1 rhan yw oedolion, mae arnoch angen 4 oedolyn.
b.Os oedd 33 o blant yn y grŵp, byddai un rhan yn 33 ÷ 8 = 4.125.
Gan na ellir cael 4.125 o oedolion, mae angen ichi dalgrynnu i fyny i 5 oedolyn, felly byddai angen un oedolyn arall ar gyfer 33 o blant.
- a.
Mae siop yn cymysgu bagiau o rawnfwyd gan ddefnyddio ceirch, syltanas a chnau yn y gymhareb 6:3:1.
Os defnyddir 210 g o syltanas, pa mor drwm fydd y bag o rawnfwyd?
Ateb
Ceirch:Syltanas:Cnau
Mae syltanas yn 3 rhan felly i ganfod 1 rhan rydych yn gwneud 210 g ÷ 3 = 70 g.
Mae ceirch yn 6 rhan felly 6 × 70 = 420 g.
Dim ond 1 rhan yw’r cnau, felly maen nhw’n 70 g.
Cyfanswm pwysau’r bag fyddai 210 g + 420 g + 70 g = 700 g.
Nesaf byddwch yn edrych ar broblemau cymhareb lle dim ond y gwahaniaeth rhwng y symiau a roddir.