Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

12 Gwirio’ch atebion

Described image
Figure _unit2.12.1 Ffigur 32 Gweithrediadau gwrthdro

Gweithrediad gwrthdro yw’r gweithrediad ffordd arall. Mewn ffordd, mae’n ‘dadwneud’ y gweithrediad a gyflawnwyd. Dewch inni edrych ar ddwy enghraifft syml i ddechrau.

Case study _unit2.12.1 Enghraifft: Gwirio’ch gwaith cyfrifo 1

6 + 10 = 16

Dull

Gan eich bod wedi gwneud swm adio, y gweithrediad gwrthdro yw tynnu. I wirio’r cyfrifiad hwn, gallwch naill ai wneud:

Extract _unit2.12.1

16 − 10 = 6

neu

16 − 6 = 10

Byddwch yn sylwi bod yr un tri rhif (6, 10 ac 16) wedi cael eu defnyddio yn yr holl gyfrifiadau.

Case study _unit2.12.2 Enghraifft 2: Gwirio’ch gwaith cyfrifo 2

5 × 3 = 15

Dull

Y tro hwn, gan eich bod wedi gwneud swm lluosi, y gweithrediad gwrthdro yw rhannu. I wirio’r cyfrifiad hwn, gallwch naill ai wneud:

Extract _unit2.12.2

15 ÷ 5 = 3

neu

15 ÷ 3 = 5

Eto, byddwch yn sylwi bod yr un tri rhif (3, 5 a 15) wedi cael eu defnyddio yn yr holl gyfrifiadau.

Os ydych wedi gwneud cyfrifiad mwy cymhleth, sy’n cynnwys mwy nag un cam, rydych yn ‘dadwneud’ pob cam.

Case study _unit2.12.3 Enghraifft: Gwirio’ch gwaith cyfrifo 3

Mae disgownt o 15% ar got sy’n costio £40. Faint ydych chi’n talu?

Dull

Yn gyntaf, rydym yn canfod 15% o £40:

Extract _unit2.12.3

40 ÷ 100 × 15 = £6 o ddisgownt

£40 − £6 = £34 i dalu

I wirio’r cyfrifiad hwn, yn gyntaf byddech yn gwirio’r swm tynnu trwy wneud yr adio:

Extract _unit2.12.4

£34 + £6 = £40

I wirio’r cyfrifiad canrannol, yna rydych yn gwneud:

Extract _unit2.12.5

£6 ÷ 15 × 100 = £40

Cofiwch, weithiau gall fod yn ddefnyddiol hefyd i ddefnyddio amcangyfrif i wirio’ch atebion, yn enwedig wrth ddefnyddio degolion neu rifau mawr.

Rydych yn awr wedi cwblhau adran rhifau’r cwrs. Cyn symud ymlaen at y sesiwn nesaf, ‘Unedau mesur’, cwblhewch y cwis ar y dudalen nesaf i wirio’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • dysgu bod gan bob un o’r pedwar gweithrediad weithrediad gwrthdro (i’r gwrthwyneb) ac y gellir defnyddio’r rhain i wirio’ch atebion
  • gweld enghreifftiau sy’n dangos sut i wirio atebion trwy ddefnyddio’r gweithrediad gwrthdro.