3.2 Talgrynnu er mwyn brasamcanu ateb
Efallai y byddwch yn talgrynnu er mwyn brasamcanu ateb. Yn y siop goffi, efallai yr hoffech brynu latte am £2.85, cappuccino am £1.99 a the am £0.99. Mae’n naturiol i dalgrynnu’r symiau hyn i fyny i £3, £2 a £1 er mwyn cyrraedd brasamcan o gost y tair diod sef £6. Mae hefyd yn ddefnyddiol iawn pan fyddwch yn gwirio cyfrifiadau i sicrhau bod eich ateb yn gwneud synnwyr, yn arbennig pan fyddwch yn gweithio gyda rhifau mawr a degolion.
Activity _unit2.3.2 Gweithgaredd 9: Brasamcanu
Cyfrifwch y canlynol gan ddefnyddio cyfrifiannell a defnyddio dull amcangyfrif i wirio’ch atebion.
Ar 5 Mawrth 2019, parodd 190 o bobl 5 rhif ac ennill £1650 yr un. Beth oedd cyfanswm y gronfa wobrau?
Stadiwm Liberty yw lle mae Clwb Pêl-droed Abertawe yn chwarae ei gemau cartref, ac mae’n dal 21 088 o gefnogwyr. Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd yn chwarae yn Stadiwm Dinas Caerdydd, sy’n dal 33 316 o gefnogwyr.
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng nifer y lleoedd yn y ddwy stadiwm?
Ateb
Y gwir ateb yw £313 500 (190 × 1650)
Amcangyfrif 200 × 1700.
2 × 17 = 34 felly 200 × 1700 = 340 000 felly mae’r ateb yn un synhwyrol.
Y gwir ateb yw 12 228 (33 316 − 21 088)
Amcangyfrif 33 000 − 21 000 = 12 000 felly mae’r ateb yn un synhwyrol.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:
sut a phryd i ddefnyddio talgrynnu i frasamcanu ateb i gyfrifiad
sut i dalgrynnu ateb i ryw radd benodol o gywirdeb – e.e. talgrynnu i ddau le degol.