Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4 Cyfrifiadau aml-gam

Yn aml mewn bywyd pob dydd, fe ddewch chi ar draws problemau sy’n gofyn am fwy nag un cyfrifiad i gyrraedd yr ateb terfynol.

Case study _unit2.4.1 Enghraifft: Cyfrifiadau aml-gam

Mae pedwar ffrind yn trefnu gwyliau. Mae’r tabl isod yn dangos y costau:

Table _unit2.4.1 Tabl 4
Eitem Pris
Hediad (dwy ffordd) £305 y pen
Trethi £60 y pen
Gwesty £500 am bob ystafell, 2 berson ym mhob ystafell
Tacsi i’r maes awyr £45

Bydd y ffrindiau’n rhannu cyfanswm y gost rhyngddyn nhw’n gyfartal. Faint maen nhw’n ei dalu?

Dull

Yn gyntaf, rydym yn lluosi i ganfod cost yr eitemau y mae arnom angen mwy nag un ohonynt:

  • Hediadau = £305 × 4 = £1220

  • Trethi = £60 × 4 = £240

  • Gwesty = Mae angen 2 ystafell ar gyfer 4 person  = £500 × 2 = £1000

Nawr rydym yn adio’r cyfansymiau hyn at ei gilydd.

  • £1220 + £240 + £1000 + £45 = £2505

Yn olaf, mae angen inni rannu er mwyn canfod faint mae pob person yn ei dalu:

  • £2505 ÷ 4 =£626.25 yr un

Activity _unit2.4.1 Gweithgaredd 10: Cyfrifiadau aml-gam

  1. Mae eich contract ffôn symudol presennol yn costio £24.50 ichi bob mis.

    Rydych yn ystyried newid darparwr. Mae’r un newydd yn codi £19.80 y mis ynghyd â ffi cysylltu untro ychwanegol o £30.

    Faint fyddwch chi’n arbed dros y flwyddyn trwy newid i’r darparwr newydd?

  2. Rydych chi’n mynd ar eich gwyliau ac rydych wedi penderfynu aros mewn bwthyn yng ngogledd Cymru am 7 noson.

    Bydd 12 ohonoch yn aros a chyfanswm cost y bwthyn rydych wedi’i ddewis yw £460 y noson. Os ydych yn rhannu’r gost yn gyfartal, faint fydd pob un yn ei dalu?

Ateb

  1. Yn gyntaf cyfrifwch gost y darparwr presennol

    cost fisol × 12

    £24.50 × 12 = £294 (darparwr presennol)

    Yn ail, cyfrifwch gost y darparwr newydd.

    I wneud hyn mae angen ichi gyfrifo cyfanswm y costau misol:

    • £19.80 × 12 = £237.60

    ac yna adio’r ffi cysylltu untro sef £30:

    • £237.60 + £30 = £267.60 (darparwr newydd)

    Yn olaf, gallwch gyfrifo’r gwahaniaeth rhwng y ddau ddarparwr:

    • £294 − £267.60 = £26.40 wedi’i arbed

  2. I wneud y cyfrifiad, mae angen ichi weithio allan y gost am 7 noson. Pan fyddwch wedi gwneud hyn, gallwch rannu’r cyfanswm â 12:

    • 460 × 7 = £3220

      £3220 ÷ 12 = £268.33 (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)

      Yma mae’n debyg y byddem yn talgrynnu’r swm hwn i fyny i £286.34 y pen er mwyn sicrhau y caiff y gost gyfan ei thalu.

Mae’r holl enghreifftiau rydym wedi edrych arnyn nhw hyd yma wedi defnyddio rhifau positif. Fodd bynnag, fel mae unrhyw un â gorddrafft yn gwybod, nid yw rhifau (na balansau banc) yn bositif bob amser! Felly mae ein hadran nesaf yn ymdrin â rhifau negatif.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • cymhwyso’r pedwar gweithrediad i ddatrys cyfrifiadau aml-gam.