5 Rhifau negatif
Mae rhifau negatif i’w cael mewn dau faes penodol o fywyd: arian a thymheredd. Gwyliwch yr animeiddiadau isod am rai enghreifftiau.
Transcript
Mae rhifau negatif i’w cael mewn dau faes penodol o fywyd: arian a thymheredd. Os yw’ch balans banc yn -£250, mae hyn yn golygu bod eich balans £250 islaw sero. Mewn geiriau eraill, mae arnoch chi £250 i’r banc.
Byddwch hefyd wedi arfer â gweld rhagolygon y tywydd yn y gaeaf yn darogan tymheredd o -10 gradd Celsius. Mae hyn yn golygu y bydd y tymheredd 10 gradd islaw sero gradd Celsius.
Gall fod o gymorth meddwl am thermomedr os ydych chi’n ceisio canfod y gwahaniaeth rhwng dau rif, lle mae un neu’r ddau yn rhifau negatif. Os yw’r tymheredd yn codi, rydych chi’n mynd i fyny’r thermomedr. Os yw’r tymheredd yn gostwng, rydych chi’n mynd i lawr y thermomedr.
Er enghraifft, hoffech chi wybod yr ateb i’r swm [6 - 10]. Gan ddechrau ar rif 6 ar thermomedr a mynd i lawr, mae’n hawdd gweld y bydd tynnu 10 yn arwain at rif llai na sero.
Beth yw’r ateb i’r swm [-5 + 12]? Y tro hwn, rydyn ni’n dechrau islaw sero ac yn mynd i fyny’r thermomedr 12 lle, gan roi ateb o 7.
Allwch chi weithio allan yr ateb i’r swm [-1 - 8]? Gyda’r enghraifft hon, rydyn ni’n dechrau islaw sero ac mae’r ateb hefyd islaw sero: -9. Nawr rhowch gynnig ar y gweithgaredd nesaf i ymarfer mwy gyda rhifau negatif.
Activity _unit2.5.1 Gweithgaredd 11: Tymheredd negatif a phositif
Mae’r tabl isod yn dangos tymereddau dinasoedd ar draws y byd ar un diwrnod.
Llundain | Oslo | Efrog Newydd | Kraków | Delhi |
---|---|---|---|---|
4˚C | −12C | 7˚C | −3˚C | 19˚C |
a.Pa ddinas oedd y gynhesaf?
b.Pa ddinas oedd yr oeraf?
c.Beth yw’r gwahaniaeth mewn tymheredd rhwng y ddinas oeraf a’r ddinas gynhesaf?
Ateb
a.Delhi oedd y ddinas gynhesaf – ganddi hi roedd y tymheredd positif uchaf.
b.Oslo oedd y ddinas oeraf – ganddi hi roedd y tymheredd negatif isaf.
c.Y gwahaniaeth rhwng y tymheredd yn y ddwy ddinas yw 31˚C.
O 19˚C i lawr at 0˚C yw 19˚C ac yna mae angen ichi fynd i lawr 12˚C arall i gyrraedd −12˚C.
Edrychwch ar y gyfriflen banc hon.
a.Ar ba ddiwrnodau oedd Sonia Cedar yn y coch, ac o faint?
b.Faint o arian a dynnwyd rhwng 9 ac 11 Hydref?
c.Faint o arian a ychwanegwyd i’r cyfrif ar 15 Hydref?
Ateb
a.Mae’r arwydd minws (−) yn dangos bod y cwsmer yn y coch h.y. mae arni arian i’r banc.
Mae’r swm yn dangos faint sy’n ddyledus ganddi. Felly roedd Sonia Cedar yn y coch o £20 ar 11 Hydref a £50 ar 21 Hydref.
b.Tynnwyd £120 ar 11 Hydref.
Roedd gan y cwsmer £100 yn y cyfrif a rhaid ei bod wedi tynnu £20 arall (h.y. cyfanswm o £100 + £20 = £120) er mwyn iddi fod £20 yn y coch.
c.Roedd ar y cwsmer £20 i’r banc a nawr mae’n £70 mewn credyd, felly rhaid bod £90 wedi cael ei ychwanegu i’r cyfrif.
Edrychwch ar y tabl isod sy’n dangos elw cwmni dros 6 mis.
Awgrym: mae elw negatif yn golygu bod y cwmni wedi gwneud colled.
Mis | Elw (£000) |
---|---|
Ionawr | 166 |
Chwefror | 182 |
Mawrth | −80 |
Ebrill | 124 |
Mai | 98 |
Mehefin | −46 |
Balans | Highlighted |
a.Ym mha fis y cafwyd yr elw mwyaf?
b.Ym mha fis y cafwyd y golled fwyaf?
c.Beth oedd y balans am y chwe mis i gyd?
Awgrym: dechreuwch drwy gyfrifo cyfanswm yr elwau a chyfanswm y colledion.
Ateb
a.Cafwyd yr elw mwyaf ym mis Chwefror sef £182 000 (cofiwch edrych ar bennawd y golofn sy’n dangos bod y ffigurau mewn 000 – miloedd).
b.Cafwyd y golled fwyaf ym mis Mawrth sef £80 000.
c.I gyfrifo’r balans cyflawn, yn gyntaf mae angen ichi gyfrifo cyfanswm yr elwau a chyfanswm y colledion. I gyfrifo’r elwau, mae angen ichi wneud y cyfrifiad hwn:
166 + 182 + 124 + 98 = 570
Felly £570 000 oedd yr elw.
Nesaf, mae angen ichi gyfrifo cyfanswm y colledion; dangoswyd colled mewn dau fis felly mae angen ichi adio’r gwerthoedd hyn:
80 + 46 = 126 felly £126 000 oedd y colledion dros y chwe mis.
Nawr gallwch gyfrifo’r balans cyflawn trwy dynnu’r colledion o’r elwau:
£570 000 − £126 000 = £444 000
Mae hwn yn werth positif sy’n golygu y gwnaeth y cwmni elw o £444 000 i gyd.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
dysgu’r ddau brif gyd-destun lle mae rhifau negatif yn codi mewn bywyd pob dydd – arian (neu ddyled!) a thymheredd
ymarfer gweithio gyda rhifau negatif yn y cyd-destunau hyn.