6 Termau mathemategol
Mae’n bwysig gwybod ystyr y termau canlynol:
lluosrifau
lluosrif cyffredin lleiaf
ffactorau
ffactorau cyffredin
rhifau cysefin
Lluosrifau
Gellir canfod lluosrif unrhyw rif trwy luosi’r rhif hwnnw ag unrhyw rif cyfan e.e. mae lluosrifau 2 yn cynnwys 2, 4, 6, 8, 10 ac ati (mae pob un yn nhabl lluosi 2).
Box _unit2.6.1
Noder: I wirio a yw rhif yn lluosrif o rif arall, ceisiwch ei rannu’n union i’r lluosrif e.e. i weld a yw 81 yn lluosrif o 3, gwnewch y cyfrifiad 81 ÷ 3 = 27. Mae’n rhannu’n union felly mae 81 yn lluosrif o 3.
Lluosrif cyffredin lleiaf
Ym maes mathemateg, weithiau mae angen inni ganfod lluosrif cyffredin lleiaf rhifau.
Yn syml, y lluosrif cyffredin lleiaf yw’r lluosrif lleiaf sy’n gyffredin i fwy nag un rhif.
Case study _unit2.6.1 Enghraifft: Lluosrif cyffredin lleiaf 3 a 5
Awgrym: wrth edrych am luosrifau, mae’n haws dechrau trwy restru lluosrifau’r rhif mwyaf yn gyntaf. Bydd hyn yn eich arbed chi rhag mynd ymhellach i lawr y rhestr nag sydd rhaid.
Lluosrifau cyntaf 5 yw:
5, 10, 15, 20, 25, 30 ac ati.
Lluosrifau cyntaf 3 yw:
3, 6, 9, 12, 15, 18, 21 ac ati.
Gallwch weld mai’r rhif lleiaf sy’n lluosrif cyffredin i 3 a 5 yw 15.
Activity _unit2.6.1 Gweithgaredd 12: Canfod y lluosrif cyffredin lleiaf
Canfyddwch luosrif cyffredin lleiaf:
6 a 12
2 a 7
Ateb
Lluosrif cyffredin lleiaf 6 a 12 yw 12:
Lluosrifau 12:
12, 24, 36, 48, 60 ac ati.
Lluosrifau 6:
6, 12, 18, 24, 30 ac ati.
Gallwch weld o’r rhestr bod 24 hefyd yn lluosrif cyffredin 6 a 12, ond 12 yw’r lluosrif cyffredin lleiaf.
Lluosrif cyffredin lleiaf 2 a 7 yw 14:
Lluosrifau 7:
7, 14, 21, 28, 35, 42 ac ati.
Lluosrifau 2:
2, 4, 6, 8, 10, 12, 14 ac ati.
Ffactorau, ffactorau cyffredin a rhifau cysefin
Mae ffactorau rhif yn rhannu iddo’n union. Mae ffactorau pob rhif yn cynnwys 1 a'r rhif ei hun. Fodd bynnag, mae gan y rhan fwyaf o rifau ffactorau eraill hefyd. Os meddyliwch chi am yr holl rifau sy’n lluosi â’i gilydd i wneud y rhif hwnnw, byddwch yn canfod holl ffactorau’r rhif hwnnw.
Case study _unit2.6.2 Enghraifft: Beth yw ffactorau 8?
8 × 1 = 8
2 × 4 = 8
Felly ffactorau 8 yw 1, 2, 4 ac 8.
Activity _unit2.6.2 Gweithgaredd 13: Canfod ffactorau
Beth yw ffactorau 54?
Beth yw ffactorau 165?
Ateb
Ffactorau 54 yw 1, 2, 3, 6, 9, 18, 27 a 54
Ffactorau 165 yw 1, 3, 5, 11, 15, 33, 55 a 165
Ffactor cyffredin yw ffactor sy’n mynd i mewn i fwy nag un rhif. Er enghraifft, mae 4 yn ffactor cyffredin o 8 a 12 oherwydd ei fod yn rhannu’n union i’r ddau rif.
Rhifau Cysefin
Rhif cysefin yw rhif sydd â 2 ffactor yn unig: 1 a’r rhif ei hun.
Y rhifau cysefin rhwng 1 a 20 yw 2, 3, 5, 7, 11, 13, 17 a 19.
Box _unit2.6.2
Noder:
Nid yw 1 yn rhif cysefin - dim ond un ffactor sydd ganddo.
- 2 yw’r unig rif cysefin sy’n eilrif.
Rydych yn awr wedi dysgu sut i ddefnyddio’r pedwar gweithrediad, sut i weithio gyda rhifau negatif ac wedi dysgu rhai termau mathemategol pwysig. Mae pob cysyniad mathemategol arall yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi’i ddysgu hyd yma; felly pan fyddwch yn hyderus i ddefnyddio’r rhain, byddwch wedi llwyddo!
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi:
dysgu rhai termau mathemategol allweddol: lluosrif, lluosrif cyffredin lleiaf, ffactor, ffactor cyffredin a rhif cysefin
canfod y lluosrif cyffredin lleiaf
canfod ffactorau.