7.1 Symleiddio ffracsiynau
Gwyliwch y fideo isod sy’n edrych ar sut i symleiddio ffracsiynau, cyn rhoi cynnig arni eich hun yng Ngweithgaredd 14.
Transcript
Yn y fideo hwn, byddwch yn edrych ar sut i symleiddio ffracsiynau. Byddwch wedi arfer â gweld canlyniadau arolygon cwmnïau wedi’u rhoi fel ffracsiynau: ‘Mae 7/8 o bobl yn dweud eu bod yn fodlon ar ein gwasanaeth cwsmeriaid ni’. Dyma enghraifft o ffracsiwn yn ei ffurf symlaf. Efallai mai 184 o bobl a holwyd ac mai 161 ohonyn nhw ymatebodd i ddweud eu bod nhw’n fodlon. Er eu bod yn ffracsiynau cywerth, gallwch weld bod y ffracsiwn ‘7/8 o bobl’ yn llawer haws ei ddeall na dweud ymatebodd 161/184 o bobl i ddweud eu bod yn fodlon.
Os gofynnir ichi roi ateb fel ffracsiwn yn ei ffurf symlaf, yn gyntaf rydych chi’n canfod rhif y gallwch rannu’r ddwy ran o’r ffracsiwn ag ef, ac yn ei rannu. Er enghraifft, i symleiddio’r ffracsiwn 12/18, gallwch rannu’r rhif top a’r rhif gwaelod â 2, i roi 6/9.
Daliwch i fynd hyd nes nad ydych chi’n gallu canfod rhif y gallwch rannu dwy ran y ffracsiwn ag ef. Gellir rhannu’r ffracsiwn 6/9 eto, y tro hwn â 3, i gael 2/3. Dyma’r ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.
Nawr dewch inni symleiddio’r ffracsiwn 40/120. Cofiwch ganfod rhif y gallwch rannu dwy ran y ffracsiwn ag ef, a daliwch i fynd hyd nes nad oes rhif arall sy’n gweithio. Felly, rhannwch y top a’r gwaelod â 10. Rhannwch y top a’r gwaelod â 2. Rhannwch y top a’r gwaelod â 2. Dyma’r ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.
Activity _unit2.7.1 Gweithgaredd 14: Symleiddio ffracsiynau
Dangoswch y ffracsiynau canlynol yn y ffurf symlaf, lle bo’n bosibl.
a.
b.
c.
d.
e.
f.
Ateb
a. =
b. =
c. =
d. =
e. ni ellir ei symleiddio
f. =
Nesaf byddwch yn edrych ar fynegi un swm fel ffracsiwn o swm arall.