Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

7.2 Ysgrifennu un swm fel ffracsiwn o swm arall

Weithiau bydd angen ichi ddangos un maint fel ffracsiwn o un arall. Efallai bod hyn yn swnio’n gymhleth, ond mae’n rhesymegol iawn. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod.

Case study _unit2.7.1 Enghraifft 1: Ffracsiwn o swm

Yn Ffigur 8, pa ffracsiwn o’r Smarties sy’n goch?

Described image
Figure _unit2.7.2 Ffigur 8 Smarties gwahanol liw

Extract _unit2.7.1

n times i times f times e times r postfix times y postfix times s times m times a times r times t times i times e times s c times o times c times h divided by c times y times f times a times n times s times w times m postfix times n times i times f times e times r postfix times y postfix times postfix times s times m times a times r times t times i times e times s = four divided by 30

I fynegi ffracsiwn y Smarties sy’n goch, mae angen ichi gyfrif y Smarties coch (4) a chyfanswm nifer y Smarties (30). Gan fod 4 Smartie coch allan o 30 ohonynt, y ffracsiwn yw four divided by 30. Mae’n werth nodi yma y gellid ysgrifennu’r ffracsiwn hefyd fel 4/30.

Efallai y gofynnir ichi roi’ch ateb fel ffracsiwn yn ei ffurf symlaf, felly gwiriwch i weld a allwch symleiddio’ch ateb. Yn yr achos hwn, bydd four divided by 30 yn symleiddio i two divided by 15.

Case study _unit2.7.2 Enghraifft 2: Ffracsiwn o faint

Caiff 250 g o flawd ei gymryd o fag 1 kg. Pa ffracsiwn yw hwn?

Awgrym: mae 1000 g mewn 1 kg

I fynegi meintiau fel ffracsiynau, rhaid i’r rhifau top a gwaelod fod yn yr un unedau. Yn yr achos hwn, mae angen ichi sicrhau eich bod yn mynegi’r gwerthoedd top a gwaelod mewn gramau:

  • Mae’r blawd a gymerwyd eisoes wedi’i fynegi mewn gramau: 250 g

  • Mae cyfanswm y maint mewn cilogramau, felly mae angen ichi drosi i gramau: 1 kg = 1000 g

Nawr ysgrifennwch y maint a gymerwyd dros gyfanswm y maint i’w fynegi fel ffracsiwn:

  • 250 divided by 1000 (Mae 250 g o flawd o’r bag 1000 g wedi cael ei gymryd neu ei ddefnyddio)

Yna canslwch i lawr (neu symleiddio) os yw’n bosibl:

  • 250 divided by 1000 = one divided by four

Felly one divided by four mae o’r blawd wedi cael ei ddefnyddio.

Activity _unit2.7.2 Gweithgaredd 15: Mynegi rhif fel ffracsiwn o un arall

  1. Pa ffracsiwn o gilogram yw:

    • a.100 g

    • b.750 g

    • c.640 g

    • d.20 g

Ateb

  1. 100 g = 1000 g, felly:

    • a.100 g 100 divided by 1000 = one divided by 10 o gilogram

       

    • b.750 g 750 divided by 1000 = three divided by four o gilogram

       

    • c.640 g 640 divided by 1000 = 16 divided by 25 o gilogram

       

    • d.20 g = 20 divided by 1000 = one divided by 50 o gilogram

  1. Pa ffracsiwn o awr yw:

    • a.15 munud

    • b.20 munud

    • c.35 munud

    • d.48 munud

Ateb

  1. 1 awr = 60 munud felly:

    • a.15 munud = 15 divided by 60 = one divided by four o awr.

       

    • b.20 munud = 20 divided by 60 = one divided by three o awr.

       

    • c.35 munud = 35 divided by 60 = seven divided by 12 o awr.

       

    • d.48 munud = 48 divided by 60 = four divided by five o awr.

  1. Mae ffermwr yn mynd â 120 o wyau i’r farchnad ffermwyr leol. Mae ganddi 24 ar ôl ar ddiwedd y dydd. Pa ffracsiwn o’r wyau sydd ar ôl?

Ateb

  1. 24 divided by 120 Mae.ar ôl. Mae’r rhif hwn yn canslo i lawr i one divided by five, felly mae one divided by five o’r wyau ar ôl.

  1. Mae dosbarth o fyfyrwyr yn sefyll arholiad. Mae 18 yn llwyddo a 12 yn methu. Pa ffracsiwn a lwyddodd?

Ateb

  1. Gweithiwch allan cyfanswm nifer y myfyrwyr trwy adio’r nifer a lwyddodd i’r nifer a fethodd 18 + 12 = 30. Nawr gweithiwch allan y ffracsiwn a lwyddodd:

    • 18 divided by 30 (Llwyddodd 18 o’r 30 o fyfyrwyr)

    Nawr canslwch i lawr:

    • 18 divided by 30 = three divided by five

      Felly three divided by five o’r myfyrwyr lwyddodd yn yr arholiad

  1. Prynodd Mair ei char am £ 12 500. Pan aiff hi i’w ran-gyfnewid, caiff gynnig o £8750. Pa ffracsiwn o’r pris gwreiddiol yw hwn?

Ateb

  1. 8750 divided by 12500 = seven divided by 10

  1. Cymerodd 30 o bobl ran mewn raffl. Enillodd 6 ohonyn nhw wobrau. Pa ffracsiwn o’r bobl na enillodd wobr? Rhowch eich ateb fel ffracsiwn yn ei ffurf symlaf.

Ateb

  1. Gan fod y cwestiwn hwn yn gofyn am nifer y bobl na enillodd wobr, yn gyntaf mae’n rhaid inni wneud:

          30 − 6 = 24 o bobl heb ennill gwobr

    Mae hwn yn 24 divided by 30 fel ffracsiwn, sy’n symleiddio i four divided by five.

Weithiau ni fydd ffracsiynau’n canslo i lawr yn rhwydd. Pan mae hyn yn digwydd, rydych yn amcangyfrif y ffracsiwn trwy dalgrynnu’r rhifau i werthoedd a fydd yn canslo. Weithiau mae hyn yn golygu torri ‘rheolau’ talgrynnu.

Case study _unit2.7.3 Enghraifft: Amcangyfrif ffracsiynau

1347 divided by 2057 Ni fydd yn canslo.

Drwy dalgrynnu 1347 i fyny i 1400 a 2057 i 2100, gallwn ganslo’r ffracsiwn i lawr i:

  • 1400 divided by 2100 = two divided by three

Box _unit2.7.1

Noder: Talgrynnwch i rifau sy’n hawdd i’w canslo, ond os byddwch yn talgrynnu gormod, byddwch yn colli cywirdeb eich ateb.

Nawr eich bod yn gallu mynegi un swm fel ffracsiwn o swm arall, amcangyfrif a symleiddio ffracsiynau, y cam nesaf yw gallu gweithio allan ffracsiynau o symiau. Er enghraifft, os gwelwch siaced â phris gwreiddiol o £80 mewn sêl gyda gostyngiad o two divided by five mae’n ddefnyddiol i allu gweithio allan faint o arian byddwch yn ei dalu.