8.1 Cyfrifo canran o swm
Dull 1
Mae canrannau’n ffracsiynau lle mae’n rhaid i’r rhif ar waelod y ffracsiwn fod yn 100. Pe baech chi eisiau canfod 15% o 80, er enghraifft, byddech yn gweithio allan o 80, a gallwch wneud hynny eisoes!
Mae gweithio allan canran o swm yn gofyn am ddull tebyg i’r un a ddefnyddir i ganfod ffracsiwn swm. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod er mwyn codi’ch hyder.
Case study _unit2.8.1 Enghraifft 1: Canfod 17% o 80
Dull
17% o 80 = o 80, felly rydym yn gwneud:
Extract _unit2.8.1
80 ÷ 100 = 0.8
0.8 × 17 = 13.6
Ffordd arall o feddwl am y dull hwn yw eich bod yn rhannu â 100 i ganfod 1% yn gyntaf, ac yna’n lluosi â pha bynnag canran rydych eisiau ei chanfod.
Fel arall, gallech luosi’r gwerth â’r rhif top yn gyntaf ac yna rhannu â 100:
Extract _unit2.8.2
17 × 80 = 1360
1360 ÷ 100 = 13.6
Yr un fydd yr ateb.
Case study _unit2.8.2 Enghraifft 2: Canfod 3% o £52.24
Dull
3% o 52.24 = o 52.24, felly rydym yn gwneud:
Extract _unit2.8.3
52.24 ÷ 100 = 0.5224.
0.5224 × 3 = £1.5672 (£ 1.57 i ddau le degol)
Neu
Extract _unit2.8.4
52.24 × 3 = 156.72
156.72 ÷ 100 = £1.5672 (£1.57 i ddau le degol)
Mae hwn yn ddull da os ydych eisiau gallu gweithio allan pob canran yn yr un ffordd. Gellir ei ddefnyddio gyda neu heb gyfrifiannell. Mae gan lawer o gyfrifianellau fotwm canran, ond mae cyfrifianellau gwahanol yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol felly mae angen ichi ymgyfarwyddo â sut i ddefnyddio’r botwm % ar eich cyfrifiannell chi.
Dull 2
I ddefnyddio’r dull hwn, y cyfan mae angen ichi allu ei wneud yw gweithio allan 10% ac 1% o swm. Yna gallwch weithio allan unrhyw ganran arall o’r rhain.
Dewch inni atgoffa’n hunain sut i ganfod 10% ac 1%.
Box _unit2.8.2 10%
I ganfod 10% o swm, rhannwch â 10:
Extract _unit2.8.5
10% o £765 = 765 ÷ 10 = £76.50
10% o £34.50 = 34.50 ÷ 10 = £3.45
Awgrym: cofiwch symud y pwynt degol un lle i’r chwith i rannu â 10.
Box _unit2.8.3 1%
I ganfod 1% o swm, rhannwch â 100:
Extract _unit2.8.6
1% o £765 = 765 ÷ 100 = £7.65
1% o £34.50 = 34.50 ÷ 100 = £0.345 (£0.35 i ddau le degol)
Awgrym: cofiwch symud y pwynt degol dau le i’r chwith i rannu â 100.
Pan fyddwch yn gwybod sut i weithio allan 10% ac 1%, gallwch weithio allan unrhyw ganran arall.
Case study _unit2.8.3 Enghraifft 1: Canfod 24% o 60
Canfyddwch 10% yn gyntaf:
Extract _unit2.8.7
60 ÷ 10 = 6
10% = 6
Mae 20% yn 2 waith 10% felly:
Extract _unit2.8.8
6 × 2 = 12
20% = 12
Nawr canfyddwch 1%:
Extract _unit2.8.9
60 ÷ 100 = 0.6
Mae 4% yn 4 gwaith 1% felly:
Extract _unit2.8.10
0.6 × 4 = 2.4
4% = 2.4
Nawr adiwch y 20% a’r 4% at ei gilydd:
12 + 2.4 = 14.4
Case study _unit2.8.4 Enghraifft 2: Canfod 17.5% o £328
Gellir torri 17.5% i lawr i 10% + 5% + 2.5%, felly mae angen ichi weithio allan y canrannau hyn ac yna eu hadio at ei gilydd.
Canfyddwch 10% yn gyntaf:
Extract _unit2.8.11
328 ÷ 10 = 32.8
10% = 32.8
5% yw hanner y 10% felly:
Extract _unit2.8.12
32.8 ÷ 2 = 16.4
5% = 16.4
2.5% yw hanner y 5% felly:
Extract _unit2.8.13
16.4 ÷ 2 = 8.2
2.5% = 8.2
Nawr adiwch y ffigurau 10%, 5% a 2.5% at ei gilydd:
Extract _unit2.8.14
32.8 + 16.4 + 8.2 = £57.40
Mae hwn yn ddull da i’w wneud mewn camau pan nad oes gennych gyfrifiannell.
Box _unit2.8.4
Noder: Mae yna rai ffyrdd cyflym eraill o weithio allan rhai canrannau penodol:
Extract _unit2.8.15
50% – rhannwch y swm â dau.
25% – hanerwch a hanerwch eto.
Gellir defnyddio’r ffeithiau cyflym hyn mewn cyfuniad â dull 2 i wneud cyfrifiadau, e.e. gellid gweithio allan 60% trwy ganfod 50%, 10% ac yna adio’r 2 ffigur at ei gilydd. Mae angen ichi edrych am y ffordd hawsaf o rannu’r ganran er mwyn gwneud y cyfrifiad.
Activity _unit2.8.1 Gweithgaredd 17: Canfod canrannau o symiau
Defnyddiwch y dull(iau) sydd orau gennych i gyfrifo’r atebion i’r canlynol:
Canfyddwch:
a.45% o £125
b.15% o 455 m
c.52% o £677
d.16% o £24.50
e.2% o 4000 kg
f.82% o £7.25
g.37% o £95
Mae Banc y Cambria yn talu llog o 3.5%. Beth yw’r llog ar £3000?
Mae Yswiriant Sicr yn cynnig 30% o fonws am beidio gwneud unrhyw hawliadau. Faint fyddech chi’n arbed ar bremiwm o £345.50?
Mae Asiantaeth Deithio Heulwen yn codi 1.5% o gomisiwn ar gyfnewid arian tramor. Beth yw’r gost am newid £871?
Ateb
a.£56.25
b.68.25 m
c.£352.04
d.£3.92
e.100 kg
f.£5.945 (£5.95 i ddau le degol)
g.£35.625 (£35.63 i ddau le degol)
£105
£103.65
£13.065 (£13.07 i ddau le degol)
Fel gyda ffracsiynau, yn aml bydd angen ichi allu gweithio allan pris eitem ar ôl iddo gael ei godi neu ei leihau â chanran benodol. Yr un yw’r broses â ffracsiynau: rydych yn gweithio allan canran y swm ac yna ei adio i, neu ei dynnu o’r swm gwreiddiol.
Activity _unit2.8.2 Gweithgaredd 18: Cynnydd a gostyngiad canrannol
Rydych chi’n ennill £500 y mis. Rydych yn cael 5% o godiad cyflog.
a.Faint mae eich cyflog yn cynyddu?
b.Faint ydych chi’n ennill pob mis nawr?
Ateb
a.£25
b.£525 y mis.
Rydych chi’n prynu car newydd am £9500. Erbyn diwedd y flwyddyn, mae ei werth wedi gostwng 20%.
a.Faint mae gwerth y car wedi gostwng?
b.Beth yw gwerth y car nawr?
Ateb
a.Mae gwerth y car wedi gostwng £1900.
b.Mae’r car nawr yn werth £7600.
Rydych yn buddsoddi £800 mewn cyfrif cymdeithas adeiladu sy’n cynnig llog cyfradd sefydlog o 4% y flwyddyn.
a.Faint o log ydych chi’n ennill mewn un flwyddyn?
b.Faint o arian sydd yn eich cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn?
Ateb
a.enillwyd £32 o log.
b.mae £832 yn y cyfrif ar ddiwedd y flwyddyn.
£356 oedd pris yswiriant car Julie y llynedd. Bydd hi’n talu 12% yn llai eleni. Faint fydd hi’n talu eleni?
Ateb
Bydd Julie’n talu £42.72 yn llai felly bydd ei hyswiriant yn costio £313.28
Hysbysebir aelodaeth sw am £135 y flwyddyn. Os yw Tracy yn talu’r ffi aelodaeth yn llawn yn hytrach nag yn fisol, mae’n cael disgownt o 6%. Faint fydd Tracy’n talu os yw hi’n talu’n llawn?
Ateb
Bydd yn arbed £8.10 felly bydd hi’n talu £126.90.
Cafodd amgueddfa tua 5.87 miliwn o ymwelwyr y llynedd. Disgwylir i niferoedd ymwelwyr godi 4% eleni. Faint o ymwelwyr mae’r amgueddfa yn eu disgwyl eleni?
Ateb
5.87 million = 5 870 000.
4% o 5 870 000 = 234 800
5 870 000 + 234 800 = 6 104 800 o bobl
Nesaf, byddwch yn edrych ar sut i fynegi rhif fel canran o un arall.