Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

8.3 Newid canrannol

Gwyliwch y fideo isod ar sut i gyfrifo newid canrannol, yna cwblhewch Weithgaredd 20.

Download this video clip.Video player: s1_8.3_percentage_change.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Activity _unit2.8.4 Gweithgaredd 20: Fformiwla newid canrannol

Dylech ymarfer defnyddio’r fformiwla newid canrannol rydych wedi dysgu amdano yn y fideo uchod ar y pedwar cwestiwn isod. Lle bo angen talgrynnu, rhowch eich ateb i ddau le degol.

  1. Y llynedd roedd eich tocyn tymor ar gyfer y trên yn costio £1300. Eleni, mae’r gost wedi codi i £1450. Beth yw’r cynnydd canrannol?

Ateb

  1. Gwahaniaeth: £1450 − £1300 = £150

    • Gwreiddiol: £1300

    • Newid canrannol = 150 divided by 1300 × 100

    • Newid canrannol = 0.11538... × 100 = cynnydd o 11.54% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)

  1. Prynoch chi’ch tŷ 10 mlynedd yn ôl am £155 000. Rydych yn gwerthu’ch tŷ am £180 000. Beth yw’r cynnydd canrannol ym mhris y tŷ?

Ateb

  1. Gwahaniaeth: £180 000 − £155 000 = £25 000

    • Gwreiddiol: £155 000

    • Newid canrannol = 25 times 000 divided by 155 times 000 × 100

    • Newid canrannol = 0.16129... × 100 = cynnydd o 16.13% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)

  1. Prynoch eich car 3 blynedd yn ôl am £4200. Rydych yn ei werthu i brynwr am £3600. Beth yw’r gostyngiad canrannol ym mhris y car?

Ateb

  1. Gwahaniaeth: £4200 − £3600 = £600

    • Gwreiddiol: £4200

    • Newid canrannol = 600 divided by 4200 × 100

    • Newid canrannol = 0.14285... × 100 = gostyngiad o 14.29% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)

  1. Mae Stuart yn prynu car newydd am £24 650. Mae’n gwerthu’r car 1 flwyddyn yn ddiweddarach am £20 000. Beth yw’r golled ganrannol?

Ateb

  1. Gwahaniaeth: £24 650 − £20 000 = £4650

    Gwreiddiol: £24 650

    Newid canrannol = 4650 divided by 24650 × 100

    4650 ÷ 24 650 × 100 = colled o 18.86% (wedi’i dalgrynnu i ddau le degol)

Llongyfarchiadau, nawr rydych yn gwybod popeth mae angen ichi ei wybod am ganrannau! Fel y gwelsoch, mae canrannau’n codi’n aml mewn llawer o feysydd gwahanol mewn bywyd. Ar ôl cwblhau’r adran hon, mae gennych y sgiliau yn awr i ymdrin â phob math o sefyllfa sy’n ymwneud â chanrannau.

Gwelsoch ar ddechrau’r adran bod canrannau’n ffracsiynau mewn gwirionedd. Mae degolion hefyd wedi’u cysylltu’n agos â ffracsiynau a chanrannau. Yn yr adran nesaf, byddwch yn gweld pa mor agos yw’r berthynas rhwng y tri chysyniad hyn ac yn dysgu sut i drosi o’r naill i’r llall.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi:

  • canfod canrannau o symiau

  • cyfrifo cynnydd a gostyngiad canrannol

  • cyfrifo newid canrannol gan ddefnyddio fformiwla

  • mynegi rhif fel canran o un arall.