Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

9.1 Trosi rhwng canrannau, degolion a ffracsiynau

Gan fod ffracsiynau, degolion a chanrannau yn ffyrdd gwahanol o gynrychioli’r un peth, gallwn drosi rhyngddyn nhw er mwyn eu cymharu. Gwyliwch y fideo isod i weld sut i drosi ffracsiynau, degolion a chanrannau.

Download this video clip.Video player: s1_9.1_equivalencies.mp4
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
 
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Dewch inni edrych yn fwy manwl ar newid canran yn ffracsiwn.

Case study _unit2.9.1 Enghraifft: Mae 50% yn 50 divided by 100

Fel y gallwch weld, mae’r ganran hon yn ffracsiwn o 100 yn y bôn. Fodd bynnag, gallwch ei symleiddio i one divided by two.

I newid canran yn ffracsiwn, rhowch y ganran dros 100 a’i symleiddio os yw’n bosibl.

Weithiau efallai y gwelwn ni ganran fel hyn: 12.5%.

Os ydyn ni’n defnyddio’r dull uchod fe gawn ni 12.5 divided by 100 ond ni allwn roi degolyn mewn ffracsiwn.

I gael gwared ar y degolyn yn y ffracsiwn, rhaid inni luosi rhifau top a gwaelod y ffracsiwn, sef y rhifiadur a’r enwadur, ag unrhyw rif a fydd yn rhoi rhifau cyfan inni. Yn yr achos hwn mae 10 neu 2 yn gweithio’n dda (12.5 × 10 = 125 and 12.5 × 2 = 25):

Extract _unit2.9.1 Dull 1: × 10

  • 12.5 divided by 100 × top a gwaelod â 10 = 125 divided by 1000 = one divided by eight

Extract _unit2.9.2 Dull 2: × 2

  • 12.5 divided by 100 × top a gwaelod â 2 = 25 divided by 200 = one divided by eight

Activity _unit2.9.1 Gweithgaredd 21: Trosi rhwng canrannau, degolion a ffracsiynau

  1. Mynegwch y canrannau hyn fel degolion:

    • a.62%

    • b.50%

    • c.5%

  2. Mynegwch y degolion hyn fel canrannau:

    • a.0.02

    • b.0.2

    • c.0.752

    • d.0.055

  3. Mynegwch y canrannau hyn fel ffracsiynau:

    • a.15%

    • b.2.5%

    • c.37.5%

Ateb

  1.  

    • a.0.62

    • b.0.5

    • c.0.05

  2.  

    • a.2%

    • b.20%

    • c.75.2%

    • d.5.5%

  3.  

    • a.15 divided by 100 = three divided by 20

       

    • b.2.5 divided by 100 × top a gwaelod â 10 = 25 divided by 1000 = one divided by 40

       

    • c.37.5 divided by 100 × top a gwaelod â 10 = 375 divided by 1000 = three divided by eight

       

      Efallai y byddwch wedi lluosi â rhifau gwahanol i gael gwared ar y degolyn yn y ddau gwestiwn olaf. Fodd bynnag, dylai’ch atebion terfynol fod yr un peth â’n rhai ni.

Nawr rhowch gynnig ar baru’r ffracsiynau hyn â degolion a chanrannau.

Activity _unit2.9.2 Gweithgaredd 22: Paru ffracsiynau, degolion a chanrannau

Dewiswch y ffracsiwn cywir ar gyfer pob canran a degolyn.

Gan ddefnyddio'r ddwy restr ganlynol, parwch bob eitem sydd wedi'i rhifo â'r llythyren gywir.

  1. seven divided by 20

  2. italic two divided by italic five

  3. two divided by 25

  4. five divided by eight

  • a.      62.5% = 0.625 =

  • b.      8% = 0.08 =

  • c.      35% = 0.35 =

  • d.      40% = 0.4 =

The correct answers are:
  • 1 = c
  • 2 = d
  • 3 = b
  • 4 = a

Nesaf byddwch yn edrych yn fwy manwl ar sut i newid ffracsiwn yn ganran.