2 Trosi mathau o arian cyfred a mesuriadau rhwng systemau gwahanol
Wrth weithio gyda mesuriadau, yn aml bydd angen ichi allu trosi rhwng unedau sydd mewn systemau gwahanol (cilogramau i bwysau, er enghraifft) neu fathau o arian cyfred (punnoedd Prydeinig i ewros, er enghraifft). Er y gallai hyn swnio’n anodd, dim ond mater o ddefnyddio’ch sgiliau lluosi a rhannu yw hi mewn gwirionedd. Dechreuwn trwy edrych ar drosi mathau o arian cyfred.