3.1 Cyfrifo gydag amser ac amserlenni
Fel y dywedwyd eisoes, nid yw cyfrifianellau’n ddefnyddiol iawn wrth gyfrifo gydag amser. Dewis llawer gwell yw defnyddio llinell rif i weithio allan y cyfrifiadau hyn. Edrychwch ar yr enghreifftiau isod.
Case study _unit3.3.1 Enghraifft: Coginio
Rydych chi’n rhoi cyw iâr yn y ffwrn am 4:45 pm. Rydych yn gwybod bod angen iddo goginio am 1 awr a 25 munud. Faint o’r gloch ddylech chi dynnu’r cyw iâr o’r ffwrn?
Dull
Gwyliwch y fideo isod i weld sut mae’r dull llinell rif yn gweithio.
Transcript
Mae’n cymryd 1 awr a 25 munud i goginio cyw iâr. Felly, i weithio allan pryd fydd y cyw iâr yn barod, gallwch ddefnyddio llinell rif, sy’n edrych fel hyn. Y syniad y tu ôl i linell rif yw ein bod ni’n defnyddio talpiau bach, hawdd o amser i weithio allan yr ateb. Yn yr enghraifft hon, rydych chi’n gwybod bod angen ichi adio 1 awr a 25 munud i 4:45 p.m. Dyma linell rif sy’n dechrau ar 4:45 p.m.
I ddechrau, adiwch 15 munud, gan y bydd hyn yn mynd â ni i amser hawdd sef 5:00 p.m. Yna mae’n gwneud synnwyr adio awr, sy’n mynd â chi i 6:00 p.m. Gan eich bod wedi adio 1 awr a 15 munud, mae angen ichi adio 10 munud arall. Mae hyn yn mynd â chi i 6:10 p.m., sef pryd y bydd y cyw iâr yn barod. Nid oes gwyddor fanwl i ddefnyddio llinell rif ar gyfer cyfrifiadau fel y rhain. Y cwbl wnewch chi yw adio talpiau o amser i wneud y cyfrifiad yn symlach.
Case study _unit3.3.2 Enghraifft: Taflenni amser
Rydych chi’n gweithio i gwmni tirweddu ac mae angen ichi lenwi’ch taflen amser i’ch cyflogwr. Dechreuoch chi weithio am 8:30 am a gorffennoch y jobyn am 12:10 pm. Pa mor hir gymerodd y (dasg?)?
Dull
Unwaith eto, i ganfod y gwahaniaeth amser rydych eisiau gweithio mewn ‘talpiau’ hawdd o amser. Yn gyntaf, gallwch symud o 8:30 am i 9:00 am trwy adio 30 munud. Yna mae’n syml cyrraedd 12:00 pm trwy adio 3 awr.
Yn olaf, y cwbl mae angen ichi ei wneud yw adio 10 munud arall i fynd â chi i 12:10 pm. Gan edrych ar gyfanswm yr amser wedi’i adio mae gennych 3 awr a 40 munud.
Daw agwedd arall ar gyfrifo gydag amser ar ffurf amserlenni. Byddwch wedi arfer â defnyddio’r rhain i weithio allan pa amser gadael mae arnoch ei angen er mwyn cyrraedd lle yn brydlon neu pa mor hir bydd taith yn ei gymryd. Unwaith y gallwch gyfrifo gydag amser, i ddefnyddio amserlenni y cwbl mae angen ei wneud yw dod o hyd i’r wybodaeth gywir cyn gwneud y cyfrifiad. Edrychwch ar yr enghraifft isod.
Case study _unit3.3.3 Enghraifft: Amserlenni
Dyma ran o amserlen trenau o Swindon i Lundain.
Swindon | 06:10 | 06:27 | 06:41 | 06:58 | 07:01 | 07:17 |
---|---|---|---|---|---|---|
Didcot | 06:27 | 06:45 | 06:58 | 07:15 | 07:18 | 07:34 |
Reading | 06:41 | 06:59 | 07:13 | - | 07:33 | - |
Llundain | 07:16 | 07:32 | 07:44 | 08:02 | 08:07 | 08:14 |
- a.Mae angen ichi deithio o Didcot i Lundain. Mae angen ichi gyrraedd Llundain erbyn 8:00 am. Pa un yw’r trên hwyraf y gallwch ei ddal o Didcot i gyrraedd Llundain ar gyfer 8:00 am?
Dull
Swindon | 06:10 | 06:27 | 06:41 | 06:58 | 07:01 | 07:17 |
---|---|---|---|---|---|---|
Didcot | 06:27 | 06:45 | 06:58 | 07:15 | 07:18 | 07:34 |
Reading | 06:41 | 06:59 | 07:13 | - | 07:33 | - |
Llundain | 07:16 | 07:32 | 07:44 | 08:02 | 08:07 | 08:14 |
Gan edrych ar yr amserau cyrraedd Llundain, er mwyn cyrraedd yno ar gyfer 08:00 am bydd angen ichi ddal y trên sy’n cyrraedd Llundain am 07:44 (wedi’i amlygu mewn print trwm). Os ydych chi’n symud i fyny’r golofn hon yn yr amserlen, gallwch weld bod y trên hwn yn gadael Didcot am 06:58 (wedi’i amlygu mewn print italig). Felly dyma’r trên mae’n rhaid ichi ei ddal.
- b.Pa mor hir mae’r trên 06:58 o Swindon yn ei gymryd i deithio i Lundain?
Dull
Swindon | 06:10 | 06:27 | 06:41 | 06:58 | 07:01 | 07:17 |
---|---|---|---|---|---|---|
Didcot | 06:27 | 06:45 | 06:58 | 07:15 | 07:18 | 07:34 |
Reading | 06:41 | 06:59 | 07:13 | - | 07:33 | - |
Llundain | 07:16 | 07:32 | 07:44 | 08:02 | 08:07 | 08:14 |
Yn gyntaf, dewch o hyd i’r trên cywir o Swindon (wedi’i amlygu mewn print italig). Dilynwch y golofn hon yn yr amserlen i lawr nes ichi gyrraedd Llundain (wedi’i amlygu mewn print trwm). Yna mae angen ichi ganfod y gwahaniaeth mewn amser rhwng 06:58 ac 08:02. Gan ddefnyddio’r dull llinell rif o ran gynharach o’r adran (neu unrhyw ddull arall rydych yn ei ddewis).
Yna gallwch weld bod y trên hwn yn cymryd cyfanswm o 1 awr a 4 munud i deithio o Swindon i Lundain.
Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod i ymarfer cyfrifo amser a defnyddio amserlenni.
Activity _unit3.3.1 Gweithgaredd 6: Amserlenni a chyfrifo amser
Adeiladwr yw Kacper. Mae’n gadael ei gartref am 8:30 am ac yn gyrru i’r ganolfan cyflenwadau crefftwyr. Mae’n casglu ei eitemau ac yn eu llwytho i’w fan. Mae ei ymweliad yn cymryd 1 awr a 45 munud. Yna mae’n gyrru i’r gwaith, sy’n cymryd 50 munud. Faint o’r gloch mae’n cyrraedd y gwaith?
Rydych wedi gwahodd ffrindiau draw i gael cinio ac wedi dod o hyd i rysáit am gig oen rhost. Mae’r rysáit angen:
- 25 munud o amser paratoi
- 1 awr o amser coginio
- 20 munud o amser gorffwys
Rydych eisiau bwyta gyda’ch ffrindiau am 7:30 pm. Beth yw’r amser hwyraf y gallwch ddechrau paratoi’r cig oen?
Dyma ran o amserlen trenau o Fanceinion i Lerpwl.
Manceinion i Lerpwl | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
Manceinion | 10:24 | 10:52 | 11:03 | 11:25 | 12:01 | 12:13 |
Warrington | 10:38 | 11:06 | 11:20 | 11:45 | 12:15 | 12:28 |
Widnes | 10:58 | 11:26 | 11:42 | 12:03 | 12:34 | 12:49 |
Lerpwl Lime Street | 11:09 | 11:38 | 11:53 | 12:14 | 12:46 | 13:02 |
Mae angen ichi deithio o Fanceinion i Lerpwl Lime Street. Mae angen ichi fod yn Lerpwl erbyn 12:30. Pa drên ddylech chi ei ddal o Fanceinion a pha mor hir fydd eich taith yn ei gymryd?
Ateb
Yn gyntaf, gweithiwch allan cyfanswm yr amser mae Kacper allan amdano:
- 1 awr 45 munud yn y ganolfan cyflenwadau crefftwyr a 50 munud arall yn gyrru sef cyfanswm o 2 awr a 35 munud.
Yna, gan ddefnyddio’r llinell rif, mae gennych:
Felly mae Kacper yn cyrraedd y gwaith am 11:05 am.
Gallech hefyd wneud y cyfrifiad trwy adio’r 1 awr 45 munud yn gyntaf:
- 8:30 am + 1 awr = 9:30 am
- 9:30 am + 45 munud = 10:15 am
Yn olaf, gallwch adio’r 50 munud:
- 10:15 am + 45 munud = 11:00 am
Yna adiwch y 5 munud sy’n weddill:
- 11:00 am + 5 munud = 11:05 am
Unwaith eto, yn gyntaf gweithiwch allan cyfanswm yr amser mae ei angen:
- 25 munud + 1 awr + 20 munud = cyfanswm o 1 awr 45 munud
Y tro hwn mae angen ichi weithio tuag yn ôl ar y llinell rif felly rydych yn dechrau am 7:30 ac yn gweithio tuag yn ôl.
Gallwch weld nawr bod rhaid ichi ddechrau paratoi’r cig oen am 5:45 pm fan hwyraf.
Fel yn achos y cwestiwn cyntaf, gallech fod wedi gwneud y cwestiwn hwn trwy dynnu pob cam yn y broses coginio ar wahân yn hytrach na chanfod cyfanswm yr amser yn gyntaf:
- 7:30 pm − 20 munud = 7:10 pm
- 7:10 pm − 1 awr = 6:10 pm
There are 25 minutes left so:
- 6:10 pm − 10 minutes = 6:00 pm
Mae 25 munud yn weddill felly:
- 6:00 pm − 15 munud = 5:45 pm
- Gan chwilio ar yr amserlen am amser cyrraedd Lerpwl, gallwch weld, er mwyn cyrraedd erbyn 12:30, fod angen ichi ddal y trên sy’n cyrraedd am 12:14. Mae hyn yn golygu bod angen ichi ddal y trên 11:25 o Fanceinion.
Manceinion i Lerpwl | ||||||
---|---|---|---|---|---|---|
Manceinion | 10:24 | 10:52 | 11:03 | 11:25 | 12:01 | 12:13 |
Warrington | 10:38 | 11:06 | 11:20 | 11:45 | 12:15 | 12:28 |
Widnes | 10:58 | 11:26 | 11:42 | 12:03 | 12:34 | 12:49 |
Lerpwl Lime Street | 11:09 | 11:38 | 11:53 | 12:14 | 12:46 | 13:02 |
Felly mae angen ichi weithio allan y gwahaniaeth amser rhwng 11:25 (print italig) a 12:14 (print trwm).
Gan ddefnyddio’r llinell rif eto, gallwch weld bod hwn yn gyfanswm o 5 + 30 + 14 = 49 munud.
Erbyn hyn dylech fod yn teimlo’n gyfforddus gyda chyfrifiadau sy’n ymwneud ag amser ac amserlenni. Cyn symud ymlaen i edrych ar broblemau sy’n ymwneud â chyflymder cyfartalog, mae’n werth cymryd cipolwg ar drosiadau amser. Gan eich bod eisoes yn hyderus wrth drosi unedau mesur, y cwbl fydd yn y rhan hon yw gweithgaredd byr er mwyn ichi ymarfer trosi unedau amser.