Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.1 Fformiwlâu Celsius a Fahrenheit

Gall y fformiwlâu canlynol gael eu defnyddio i drosi rhwng Celsius a Fahrenheit.

Box _unit3.4.1

I drosi Celsius i Fahrenheit defnyddiwch y fformiwla:

  • F = nine divided by five C + 32

    Dull:

    • rhannwch y ffigur Celsius â 5
    • lluoswch â 9
    • lluoswch â 32.

    Os yw’n well gennych, gallwch luosi’r ffigur Celsius â 9 yn gyntaf ac yna rhannu â 5. Bydd angen ichi adio 32 ar y diwedd o hyd.

Box _unit3.4.2

I drosi Fahrenheit i Celsius defnyddiwch y fformiwla:

  • C = five postfix times prefix times of left parenthesis cap f postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

    Dull:

    • tynnwch 32 o’r ffigur Fahrenheit
    • lluoswch â 5
    • rhannwch â 9.

Os oes arnoch angen cael eich atgoffa o’r rheolau ar gyfer defnyddio fformiwlâu, ewch yn ôl i Sesiwn 1 ‘Gweithio gyda rhifau’. Nawr edrychwn ar enghraifft.

Case study _unit3.4.1 Enghraifft: Pa ddinas yw’r gynhesaf?

Rwy’n chwilio am y tymheredd cyfartalog ar gyfer Efrog Newydd ar ddiwrnod penodol a 10°C yw ef. Rwy’n gwybod mai 55°F yw’r tymheredd cyfartalog yn Abertawe ar yr un diwrnod. Pa ddinas yw’r gynhesaf?

Mae angen ichi naill ai drosi tymheredd Efrog Newydd yn °F neu dymheredd Abertawe yn °C.

Dull 1 – Trosi o °C i °F

Os edrychwn yn ôl ar y fformiwlâu uchod, yr un mae angen inni ei defnyddio i drosi o °C to °F yw:

Extract _unit3.4.1

F = nine divided by five C + 32

Mae angen inni roi ein ffigur °C sef 10°C yn lle’r C. Yna mae angen inni ddilyn rheolau CORLAT i wneud y cyfrifiad mewn camau, fel y dangosir isod:

Extract _unit3.4.2

F = nine divided by five × 10 + 32

Rhannwch y ffigur Celsius â 5:

  • 10 ÷ 5 = 2

Lluoswch â 9:

  • 2 × 9 = 18

Adiwch 32:

  • 18 + 32 = 50°F

Efallai eich bod wedi gwneud y cyfrifiad mewn ffordd ychydig yn wahanol trwy luosi’r ffigur Celsius â 9 yn gyntaf ac yna rhannu â 5. Bydd yr ateb yn gweithio allan yr un peth:

Extract _unit3.4.3

F = nine divided by five × 10 + 32

Lluoswch y ffigur Celsius â 9:

  • 10 × 9 = 90

Rhannwch â 5:

  • 90 ÷ 5 = 18

Adiwch 32:

  • 18 + 32 = 50°F

Felly, pa un yw’r gynhesaf:

  • Efrog Newydd ar 10°C (yr ydym yn gwybod erbyn hyn ei bod yn 50°F) neu Abertawe ar 55°F?

    Abertawe yw’r gynhesaf.

Dull 2 – Trosi o °F i °C

Y fformiwla ar gyfer trosi o °F i °C:

Extract _unit3.4.4

C = five postfix times prefix times of left parenthesis cap f postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

Mae angen inni roi ein ffigur °F sef 55°F yn lle’r F. Yna mae angen inni ddilyn rheolau CORLAT er mwyn gwneud y cyfrifiad mewn camau, fel y dangosir isod:

Extract _unit3.4.5

Tynnwch 32 o’r ffigur Fahrenheit sef 55:

  • 55 − 32 = 23

Lluoswch â 5:

  • 23 × 5 = 115

Rhannwch â 9:

  • 115 ÷ 9 = 12.8°C (wedi’i dalgrynnu i 1 lle degol)

Felly pa un yw’r gynhesaf:

  • Efrog Newydd ar 10°C neu Abertawe ar 55°F (yr ydym yn gwybod erbyn hyn ei bod yn 12.8°C)? Abertawe yw’r gynhesaf.

Box _unit3.4.3

Awgrym: Mae gan Google ei droswr unedau ei hun (chwiliwch am y Google Unit Converter) y gallwch ei ddefnyddio i drosi rhwng unedau mesur gwahanol, gan gynnwys rhwng °C a °F. Gallech roi cynnig ar ei ddefnyddio i ail-wirio’ch atebion i’r cwestiynau isod.

Activity _unit3.4.1 Gweithgaredd 9: Trosi tymheredd

Gweithiwch allan yr atebion i’r canlynol heb ddefnyddio cyfrifiannell. Cewch ail-wirio’ch atebion ar gyfrifiannell neu gan ddefnyddio troswr unedau Google, os oes angen, a chofiwch wirio’ch atebion gyda’n hatebion ni ar y diwedd. Talgrynnwch eich atebion i un lle degol lle bo angen.

  1. Troswch y tymereddau canlynol yn raddau Fahrenheit (°F):

    • a.22°C
    • b.0°C
    • c.−6°C

Ateb

  1. Mae angen ichi ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

    F = nine divided by five C + 32

    • a.F = nine divided by five × 22 + 32

      22 ÷ 5 = 4.4

      4.4 × 9 = 39.6

      39.6 + 32 = 71.6°F

        

    • b.F = nine divided by five × 0 + 32

      0 ÷ 5 = 0

      0 × 9 = 0

      0 + 32 = 32°F

        

    • c.F = nine divided by five × −6 + 32

      −6 ÷ 5 = −1.2

      −1.2 × 9 = −10.8

      −10.8 + 32 = 21.2°F

        

  1. Troswch y tymereddau canlynol yn raddau Celsius (°C):

    • a.45°F

    • b.212°F

    • c.5°F

Ateb

  1. Mae angen ichi ddefnyddio’r fformiwla ganlynol:

    C = five postfix times prefix times of left parenthesis cap f postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

      

    • a.C = five postfix times prefix times of left parenthesis 45 postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

      45 − 32 = 13

      13 × 5 = 65

      65 ÷ 9 = 7.2°C (i un lle degol)

        

    • b.C = five postfix times prefix times of left parenthesis 212 postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

      212 − 32 = 180

      180 × 5 = 900

      900 ÷ 9 = 100°C

        

    • c.C = five postfix times prefix times of left parenthesis five postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

      5 − 32 = −27

      −27 × 5 = −135

      −135 ÷ 9 = −15°C

        

  1. Rwy’n dod o hyd i rysáit sy’n dweud bod angen gosod fy ffwrn ar dymheredd o 400°F. Mae’r gosodiadau ar fy ffwrn mewn °C. Ar ba dymheredd ddylwn i osod fy ffwrn?

Ateb

  1. Mae angen ichi drosi 400°F i °C felly defnyddiwch y fformiwla:

    C = five postfix times prefix times of left parenthesis cap f postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

      

    C = five postfix times prefix times of left parenthesis 400 postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

      

    400 − 32 = 368

    368 × 5 = 1840

    1840 ÷ 9 = 204.4°C (i un lle degol).

    Gan na fyddech yn gallu gosod ffwrn mor fanwl gywir â hynny, byddech yn gosod y tymheredd ar 200°C.

  1. Rwy’n gweld mai −4°C yw’r tymheredd ym Moscow ar ddiwrnod penodol ym mis Chwefror, ac mai 19°F yw’r tymheredd yn Toronto. Pa le yw’r oeraf?

Ateb

  1. Mae angen ichi naill ai drosi tymheredd Moscow sef −4°C i °F , neu drosi tymheredd Toronto sef 19°F i °C.

    Dull 1 – Trosi o °C i °F

    Os edrychwn yn ôl ar y fformiwlâu, yr un mae angen inni ei defnyddio i drosi o °C i °F yw:

    • F = nine divided by five C + 32

    Mae angen inni roi ein ffigur °C sef -4°C yn lle’r C. Yna mae angen inni ddilyn rheolau CORLAT i wneud y cyfrifiad mewn camau, fel y dangosir isod:

    • F = nine divided by five × −4 + 32

    • −4 ÷ 5 = −0.8

    Lluoswch â 9:

    • −0.8 × 9 = −7.2

    Adiwch 32:

    • −7.2 + 32 = 24.8°F

    Felly pa un yw’r oeraf? Moscow ar −4°C (yr ydym yn gwybod erbyn hyn ei bod yn 24.8°F) neu Toronto ar 19°F? Toronto yw’r oeraf.

    Dull 2 – Trosi o °F i °C

    Y fformiwla ar gyfer trosi o °F i °C yw:

    • C = five postfix times prefix times of left parenthesis cap f postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

    Mae angen inni roi ein ffigur °F sef 19°F yn lle’r F. Yna mae angen inni ddilyn rheolau CORLAT i wneud y cyfrifiad mewn camau, fel y dangosir isod:

    • C = five postfix times prefix times of left parenthesis 19 postfix times minus 32 right parenthesis divided by nine

    Tynnwch 32 o’r ffigur Fahrenheit sef 19:

    • 19 − 32 = −13

    Lluoswch â 5:

    • −13 × 5 = −65

    Rhannwch â 9:

    • −65 ÷ 9 = −7.2°C (i un lle degol)

    Felly pa un yw’r oeraf: Moscow ar −4°C neu Toronto ar 19°F (yr ydym yn gwybod erbyn hyn ei bod yn -7.2°C)? Toronto yw’r oeraf.

Gobeithio y byddwch yn teimlo’n fwy hyderus wrth ddatrys problemau sy’n ymwneud â thymheredd. Bydd yr adran nesaf yn ymdrin â darllen mesuriadau ar raddfeydd.

Crynodeb

Yn yr adran hon rydych wedi:

  • ymarfer trosi rhwng graddau Celsius (°C) a graddau Fahrenheit (°F).