5 Darllen graddfeydd
Efallai y bydd angen ichi ddarllen graddfa i fesur maint o hylif, darllen mesuriad ar bren mesur, pwyso cynhwysion ar gyfer rysáit neu fesur tymheredd rhywun.
Gall darllen graddfeydd fod yn anodd oherwydd mae pob graddfa’n wahanol.
Er mwyn darllen graddfa’n gywir, mae angen ichi ofyn i’ch hun:
Fesul beth mae’r raddfa’n codi? Pa gamau neu gyfyngau mae’n eu defnyddio?
Box _unit3.5.1
Noder: Gellir cyfeirio at y marciau ar raddfa fel unrhyw un o’r canlynol: cyfyngau, camau, cynyddiadau neu farcwyr. Yn aml defnyddir y termau hyn yn gydgyfnewidiol.