Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

5.1 Enghreifftiau o raddfeydd

Edrychwch ar yr enghreifftiau canlynol:

Case study _unit3.5.1 Enghraifft 1: Darllen graddfeydd

Described image
Figure _unit3.5.1 Ffigur 23 Graddfa gyda chyfyngau o 50 wedi’u rhifo

Gallwch weld bod y raddfa hon wedi’i marcio mewn cyfyngau o 50 wedi’u rhifo. Fodd bynnag, beth mae pob llinell rhwng pob cyfwng wedi’i rifo’n ei gynrychioli? Gallwch ddefnyddio’ch doethineb i’ch helpu i weithio allan beth mae pob cam bach yn ei gynrychioli.

Gwyliwch y fideo hwn (https://corbettmaths.com/ 2013/ 04/ 27/ reading-scales/ [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] ) i gael rhagor o wybodaeth ynghylch sut i wneud hyn.

Neu gallwch weithio hyn allan gan ddefnyddio rhannu. Os ydych chi’n cyfrif ymlaen o 0 i 50 ar y raddfa hon, mae 5 cam: 50 ÷ 5 = 10, felly 10 yw pob cam.

  • a.Mae’r saeth yn pwyntio at yr ail farc ar ôl 50. Gan fod y camau’n codi fesul 10, mae’r saeth yn pwyntio at 70.
  • b.Mae’r saeth hanner ffordd rhwng y cam cyntaf a’r ail gam ar ôl 150. 160 yw’r cam cyntaf a 170 yw’r ail, felly mae’r saeth yn pwyntio at 165.

Case study _unit3.5.2 Enghraifft 2: Darllen graddfeydd

Weithiau bydd angen ichi ddarllen graddfeydd lle mai rhif degol fydd y darlleniad.

Described image
Figure _unit3.5.2 Ffigur 24 Graddfa gyda chyfyngau sengl wedi’u rhifo sy’n mynd o 3 i 5

Os edrychwch ar y raddfa hon, mae’n codi fesul cyfyngau o 1 wedi’u rhifo. O’r naill rhif cyfan i’r rhif cyfan nesaf mae 10 cam bach. 1 ÷ 10 = 0.1, felly 0.1 yw pob cam.

Awgrym: Edrychwch ar y llun i ddangos sut i gyfrif nifer y camau rhwng y marcwyr wedi’u rhifo.

  • a.Awgrym: Edrychwch ar y llun i ddangos sut i gyfrif nifer y camau rhwng y marcwyr wedi’u rhifo.3.4.
  • b.Mae’r saeth yn pwyntio at yr wythfed cam ar ôl 4, felly mae’r saeth yn pwyntio at 4.8.