Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

1.2 Perimedrau siapiau â hydoedd sydd ar goll

Described image
Figure _unit4.1.6 Ffigur 7 Canfod y perimedr pan mae mesuriadau ar goll

Edrychwch ar y siâp uchod. Gallwch weld bod un o’r hydoedd ar goll o’r siâp. Sut ydych chi’n canfod y perimedr pan nad yw’r holl fesuriadau gennych chi? Ni allwch dybio bod yr hyd (melyn) sydd ar goll yn hanner yr hyd coch, felly sut ydych chi’n ei weithio allan? Bydd angen ichi ddefnyddio’r wybodaeth a roddir yng ngweddill y siâp.

Os edrychwch ar yr holl hydoedd fertigol (coch, melyn a gwyrdd) gallwch weld ein bod yn gwybod hyd dau o’r tri. Gallwch hefyd weld bod gwyrdd + melyn = coch, gan y byddai’r ddau hyd byrrach, o’u rhoi gyda’i gilydd, yn hafal i’r hyd fertigol hiraf.

Os yw 17 + ? = 30, yna er mwyn canfod yr hyd sydd ar goll rhaid ichi wneud 30 − 17 = 13.

Felly 13 m yw’r hyd sydd ar goll. Nawr eich bod yn gwybod hyn, gallwch weithio allan perimedr y siâp yn y ffordd arferol.

  • 30 + 12 + 13 + 20 + 17 + 32 = 124

  • Felly 124 m yw perimedr y siâp hwn.

Dewch inni edrych ar un enghraifft arall cyn ichi roi cynnig ar rai ar eich pen eich hun.

Described image
Figure _unit4.1.7 Ffigur 8 Canfod y perimedr pan mae hyd ar goll

Yn yr enghraifft uchod, fe welwch fod hyd ar goll unwaith eto. Y tro hwn mae’r hyd (melyn) sydd ar goll yn hyd llorweddol ac felly mae angen ichi edrych ar y ddau hyd llorweddol arall (coch a gwyrdd) er mwyn gweithio allan yr ochr sydd ar goll.

Gallwch weld y tro hwn bod coch + gwyrdd = melyn, gan fod yr hyd sydd ar goll yn gyfanswm y ddau hyd byrrach. Nawr gallwch wneud 9 + 28 = 37, felly 37 m yw’r hyd sydd ar goll.

Nawr eich bod chi’n gwybod hydoedd yr holl ochrau, gallwch weithio allan y perimedr trwy ganfod cyfanswm yr holl hydoedd.

  • 15 + 9 + 6 + 28 + 9 + 37 = 104

  • Felly 104 m yw perimedr y siâp hwn.

Activity _unit4.1.2 Gweithgaredd 2: Perimedrau a hydoedd sydd ar goll

  1. Gweithiwch allan perimedr y siâp isod.

    Described image
    Figure _unit4.1.8 Ffigur 9 Perimedrau a hydoedd sydd ar goll – Cwestiwn 1
  2. Rydych chi’n ailaddurno’ch ystafell fyw ac mae angen gosod sgyrtin newydd yn lle’r hen un. Dangosir patrwm yr ystafell isod. Dim ond mewn hydoedd 2 m y gellir prynu sgyrtin.

    Sawl hyd ddylech chi eu prynu?

    Described image
    Figure _unit4.1.9 Ffigur 10 Perimedrau a hydoedd sydd ar goll – Cwestiwn 2

Ateb

  1. Yn gyntaf, mae angen ichi weithio allan yr hyd sydd ar goll:

    • 15 + 27 = 42 m

    Felly y perimedr yw:

    • 42 + 12 + 27 + 16 + 15 + 28 = 140 m
  2. Unwaith eto, gweithiwch allan yr hyd sydd ar goll yn gyntaf:

    • 4.5 − 2.2 = 2.3 m

    Nesaf, gweithiwch allan perimedr yr ystafell:

    • 2.5 + 2.2 + 2.7 + 2.3 + 5.2 + 4.5 = 19.4 m

    I weld sawl hyd 2 m o sgyrtin y bydd eu hangen arnoch, gwnewch:

    • 19.4 ÷ 2 = 9.7

    Gan mai dim ond hydoedd cyfan y gallwn eu prynu, mae angen inni dalgrynnu hyn i fyny i 10 hyd o sgyrtin.

Da iawn! Nawr gallwch weithio allan perimedrau siapiau syml a chymhleth, gan gynnwys siapiau lle mae hydoedd ar goll. Dim ond un siâp arall mae angen ichi ei ystyried – cylchoedd.

Pa un ai rhuban o gwmpas teisen neu ffens o gwmpas pwll, mae’n ddefnyddiol gallu gweithio allan faint o ddeunydd y bydd arnoch ei angen i fynd o gwmpas ymyl siâp cylch. Mae’r rhan olaf o’ch gwaith ar berimedr yn canolbwyntio ar ganfod y pellter o gwmpas y tu allan i gylch.