2 Arwynebedd
Arwynebedd siâp yw maint y gofod sydd y tu mewn iddo. Mae hyn yn berthnasol i siapiau dau ddimensiwn (gwastad) yn unig. Os ydym ni’n ymdrin â siâp tri dimensiwn, cyfaint yw’r enw ar y gofod y tu mewn iddo. Gan fod perimedr yn fesur o hyd neu bellter, cm, m, km ac ati yw’r unedau y caiff ei fesur ynddyn nhw.
Gan fod arwynebedd yn fesur o ofod yn hytrach na hyd neu bellter, caiff ei fesur mewn unedau sgwâr. Gallai’r rhain fod yn fetrau sgwâr, centimetrau sgwâr, troedfeddi sgwâr ac ati. Yn aml fe welwch y rhain wedi’u hysgrifennu fel cm2, m2, tr2, ac ati. Dros yr ychydig dudalennau nesaf byddwch yn dysgu sut i ganfod arwynebedd siapiau syml, siapiau cyfansawdd a chylchoedd.