Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

3 Siartiau bar

Mae dau brif fath o siartiau bar (a elwir hefyd yn graffiau bar) - sengl a deuol. Y math mwyaf cyffredin yw’r siart bar sengl. Mae’r siartiau bar hyn yn defnyddio barrau fertigol neu lorweddol i ddangos data, fel y gwelir isod.

Figure _unit5.3.1 Ffigur 3 Siartiau bar sengl fertigol a llorweddol

Mae siart bar cymharol (a elwir hefyd yn siart bar deuol) yn dangos cymhariaeth rhwng dwy neu fwy o setiau o ddata. Er bod y siart isod yn dangos hoff chwaraeon grŵp o fyfyrwyr, mae’n dadansoddi’r data ymhellach ac yn rhoi cymhariaeth rhwng bechgyn a merched; mae dau far ar gyfer pob camp. Gan ddibynnu ar y math o ddata a gesglir, gallech gynnwys mwy na dau far o dan bob categori. Mae angen allwedd i ddangos beth mae pob lliw yn ei gynrychioli.

Gan edrych ar yr enghraifft o siart bar cymharol isod, gallwn weld bod 6 o ferched wedi dweud mai pêl-droed oedd eu hoff gamp, o gymharu â dim ond 3 o fechgyn.

Described image
Figure _unit5.3.2 Ffigur 4 Siart bar deuol

Trydedd ffordd o gyflwyno data yw siart bar cydrannol. Yn lle defnyddio barrau ar wahân, caiff yr holl ddata eu cynrychioli mewn un bar. Mae gan bob cydran, neu ran, o’r bar liw gwahanol. Unwaith eto mae angen allwedd i ddangos beth mae pob lliw yn ei gynrychioli. Edrychwch ar yr enghraifft isod:

Described image
Figure _unit5.3.3 Ffigur 5 Siart bar sengl (cydrannol)

Mae siart bar cydrannol yn ddefnyddiol ar gyfer dangos data lle rydym eisiau gweld y cyfanswm ynghyd â dadansoddiad. Yn y siart uchod, gallwn weld yn hawdd bod cyfanswm o 9 o fyfyrwyr wedi dweud mai pêl-droed oedd eu hoff gamp. Fodd bynnag, gallwn weld hefyd bod y data wedi’u dadansoddi i ddangos bod 3 o fechgyn a 6 o ferched wedi dweud mai pêl-droed oedd eu hoff gamp.