3.1 Nodweddion siart bar
Pa fath bynnag o siart bar rydych yn ei luniadu, mae yna nodweddion penodol y dylai pob siart fod â nhw. Edrychwch ar y diagram isod i ddysgu beth ydynt.
Os ydych yn lluniadu graff neu siart â llaw, bydd angen ichi ddefnyddio papur graff. Fodd bynnag, mae’n llawer haws a mwy cyfleus i greu graff ar gyfrifiadur. Bydd y cyfrifiadur yn dewis graddfa’r graff ac yn ei blotio’n gywir. Y cyfan mae’n rhaid ichi ei wneud yw sicrhau eich bod yn dewis y math gorau o graff ar gyfer eich data a chofio ei labelu’n glir ac yn briodol.
Activity _unit5.3.1 Gweithgaredd 3: Lluniadu siart bar
Lluniadwch siart bar i gynrychioli’r wybodaeth a ddangosir yn y tabl isod. Cewch luniadu’r graff â llaw neu ddefnyddio meddalwedd cyfrifiadurol i’w greu.
Ionawr | Chwefror | Mawrth | Ebrill | |
---|---|---|---|---|
Gwryw | 175 | 154 | 120 | 165 |
Benyw | 205 | 178 | 135 | 148 |
Cofiwch ddewis graddfa addas i’ch siart a sicrhau bod ganddo deitl a labeli ar yr echelinau. Bydd angen allwedd arno hefyd.
Ateb
Dylai’ch siart bar edrych rhywbeth fel yr enghraifft isod. Efallai y byddwch wedi dewis defnyddio graddfa rifol ychydig yn wahanol, ond dylai’ch siart fod â’r nodweddion canlynol:
teitl
labeli ar yr echelin lorweddol a’r echelin fertigol
barrau wedi’u labelu ag enw’r mis
barrau wedi’u tynnu’n gywir a phob bar yr un lled
graddfa rifol ar yr echelin fertigol
allwedd i ddangos pa farrau sy’n cynrychioli gwrywod a pha rai sy’n cynrychioli benywod.
Lluniadwch siart bar i gynrychioli’r data a ddangosir yn y tabl isod. Mae’r rhifau llawer yn fwy na’r rhai yn yr enghraifft flaenorol, felly os ydych yn lluniadu’ch siart â llaw, bydd angen ichi ystyried eich graddfa’n ofalus.
Mathau o fwyd |
Nifer y dognau a werthwyd |
Brechdanau a baguettes | 37 000 |
Byrgyrs | 25 000 |
Pysgod a sglodion | 16 000 |
Conau hufen iâ | 12 000 |
Arall | 8 500 |
Ateb
Dylai’ch siart bar edrych rhywbeth fel yr enghraifft isod.
Nodwch y defnyddir llinellau grid i’ch helpu i ddehongli’r data yn y graff. Nodwch hefyd bod y raddfa a’r label ar yr echelinau fertigol (gweler yr ail enghraifft ar ochr dde’r graff) ychydig yn wahanol. Mae’r ddau fformat wedi’u dangos yma fel enghreifftiau gwahanol a byddai’r naill neu’r llall yn dderbyniol.
Dylai’ch siart bar fod yn debyg i’r uchod ac yn cynnwys:
teitl
barrau wedi’u labelu â’r mathau bwyd
barrau wedi’u labelu â’r mathau bwyd
barrau yr un lled wedi’u tynnu’n gywir
graddfa rifol ar yr echelin fertigol, sy’n codi mewn cyfyngau rheolaidd.
Nawr eich bod yn deall nodweddion siartiau bar ac yn gallu eu lluniadu, dewch inni edrych ar sut i ddehongli’r wybodaeth a ddangosant.