Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Lawrlwytho'r cwrs hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Mathemateg bob dydd 2
Mathemateg bob dydd 2

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch a chwblhewch y cwrs am ddatganaid o'ch cyfranogiad neu fathodyn digidol am ddim os ydynt ar gael.

4.2 Dehongli siartiau cylch

Dychmygwch eich bod wedi cael y siart cylch isod. Mae’r siart yn dangos oedrannau myfyrwyr sy’n cystadlu mewn digwyddiad athletau.

Described image
Figure _unit5.4.5 Ffigur 16 Oedrannau myfyrwyr sy’n cystadlu mewn digwyddiad athletau

Mae dau fath posibl o wybodaeth y gallech eu cael. Naill ai cyfanswm nifer y myfyrwyr oedd yn y digwyddiad, neu nifer y myfyrwyr yn un o’r categorïau oedran.

Case study _unit5.4.1 Enghraifft: Darllen siart cylch 1

Dewch inni ddweud y cawsoch wybod bod 72 o bobl wedi mynd i’r gystadleuaeth. Gan eich bod yn gwybod bod 360˚ wedi’u rhannu’n gyfartal rhwng y 72 o bobl, rydych yn gwneud 360 ÷ 72 = 5˚ y person.

Unwaith y byddwch yn gwybod hyn, os oeddech eisiau gwybod faint o fyfyrwyr 16 oed a gymerodd ran, byddech yn edrych ar nifer y graddau ar y siart ar gyfer y rhai 16 oed, sef 60˚ yn yr enghraifft hon.

Yna rydych yn gwneud 60 ÷ 5 = 12 o fyfyrwyr.

Os oeddech eisiau gweithio allan nifer y rhai 15 oed, byddai angen ichi weithio allan yr ongl sydd ar goll yn gyntaf. Rydych yn gwybod y bydd yr onglau’n adio i fyny i 360˚, felly gwnewch:

Extract _unit5.4.1

360 – 115 – 90 – 60 = 95˚

Nawr gwnewch yr un peth ag o’r blaen sef 95 ÷ 5 = 19 o fyfyrwyr 15 oed.

Case study _unit5.4.2 Enghraifft: Darllen siart cylch 2

Gan ddefnyddio’r un siart cylch, dewch inni ddweud mai’r cyfan y cawsoch wybod oedd bod 23 o fyfyrwyr 14 oed wedi cymryd rhan.

Gallwch weld mai 115˚ yw’r ongl ar gyfer y rhai 14 oed a chawsoch wybod bod hyn yn cynrychioli 23 o fyfyrwyr.

I ganfod faint o raddau a roddir i bob myfyriwr, rydych yn gwneud 115 ÷ 23 = 5˚ y myfyriwr.

Pan fyddwch yn gwybod hyn, gallwch ganfod faint o fyfyrwyr a gynrychiolir gan bob rhan arall yn yr un ffordd ag y gwnaethom yn enghraifft 1. Er enghraifft, mae gan y rhai 13 oed ongl o 90˚.

I ganfod faint o fyfyrwyr sy’n 13 oed, rydych yn gwneud 90 ÷ 5 = 18 o fyfyrwyr.

Mae siartiau cylch yn debyg iawn i gymarebau. Mewn cwestiynau cymhareb, rydych yn ceisio canfod gwerth 1 rhan; mewn cwestiynau siart cylch, rydych yn ceisio canfod faint o raddau sy’n cynrychioli 1 person (neu beth bynnag mae’r siart cylch yn ei gynrychioli).

Yn ogystal â’r cysylltiad agos â chymhareb, gyda siartiau cylch mae angen defnyddio’ch sgiliau ffracsiynau hefyd. Er enghraifft, os gofynnwyd ichi ba ffracsiwn o’r myfyrwyr oedd yn 16 oed, gallwch ei ddangos fel 60 divided by 360 , gan fod y rhai 16 oed yn 60 o raddau allan o’r cyfanswm o 360 o raddau.

Fodd bynnag, gan ddefnyddio’ch sgiliau ffracsiynau, gellir symleiddio’r ffracsiwn 60 divided by 360 i one divided by six .

Mae’n bryd ichi ymarfer eich sgiliau dehongli siartiau cylch. Rhowch gynnig ar y gweithgaredd isod ac yna gwirio’ch atebion yn erbyn yr adborth a roddwyd.

Activity _unit5.4.2 Gweithgaredd 8: Dehongli siartiau cylch

  1. Mae’r siart cylch isod yn dangos faint o amser a dreuliodd garddwr yn gwneud gweithgareddau amrywiol dros gyfnod o fis.

    Described image
    Figure _unit5.4.6 Ffigur 17 Amser a dreuliwyd yn gwneud gweithgareddau garddio
    • a.Pa ffracsiwn o’r amser a dreuliwyd yn plannu? Rhowch eich ateb yn ei ffurf symlaf.
    • b.Treuliwyd 5 awr yn palu. Faint o amser a dreuliwyd yn torri’r glaswellt?

Ateb

  1.  

    • a.Plannu = 80 divided by 360 = two divided by nine yn ei ffurf symlaf.

    • b.100˚ yw’r palu, ac rydych yn gwybod bod hynny’n 5 awr.

      100˚ ÷ 5 = 20˚ ar gyfer pob awr.

      Gan fod gan dorri’r glaswellt ongl o 40˚, rydych yn gwneud 40 ÷ 20 = 2 awr yn torri’r glaswellt.

  1. Gofynnwyd i 120 o oedolion oedd yn cymryd rhan mewn cwrs ar-lein a oedden nhw’n teimlo bod digon o weithgareddau iddynt eu cwblhau drwy gydol y cwrs.

    Dangosir y canlyniadau yn y siart cylch isod.

    Described image
    Figure _unit5.4.7 Ffigur 18 Siart cylch o safbwyntiau am gwrs ar-lein
    • a.pa ffracsiwn o’r oedolion oedd yn meddwl bod gormod o weithgareddau? Rhowch eich ateb yn ei ffurf symlaf.
    • b.faint o oedolion oedd yn meddwl bod digon o weithgareddau?

Ateb

  1.  

    • a.Gormod = 105 divided by 360 = italic seven divided by 24 yn ei ffurf symlaf.

    • b.Rydych yn gwybod bod 120 o oedolion wedi cymryd rhan yn yr arolwg. I ganfod faint o raddau sy’n cynrychioli pob oedolyn, rydych yn gwneud 360 ÷ 120 = 3 gradd y person.

      Nesaf mae angen ichi wybod yr ongl ar gyfer y rhai a ddywedodd bod digon o weithgareddau. Ar gyfer hyn, rydych yn gwneud:

       360 – 105 – 60 – 45 = 150˚

      Nawr eich bod yn gwybod hyn, gallwch wneud:

       150 ÷ 3 = 50 o oedolion oedd yn meddwl bod digon o weithgareddau.

Da iawn! Nawr gallwch luniadu a dehongli siartiau bar a siartiau cylch. Mae’r ddau yn ffyrdd da o gynrychioli data arwahanol. Yn y rhan nesaf o’r sesiwn hwn, byddwch yn dysgu sut i luniadu a dehongli graffiau llinell.

Crynodeb

Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:

  • pa fathau o wybodaeth y gellir eu cynrychioli’n effeithiol ar siart cylch
  • sut i ddefnyddio a dehongli siart cylch
  • sut i luniadu siart cylch cywir pan roddir set ddata ichi.