5.1 Lluniadu graffiau llinell
Mae lluniadu graff llinell yn debyg iawn i luniadu siart bar, ac mae ganddyn nhw lawer o’r un nodweddion.
Mae ar graffiau llinell angen:
- teitl
- label ar gyfer yr echelin fertigol (e.e. unedau arian cyfred)
- graddfa â rhifau ar yr echelin fertigol
- label ar yr echelin lorweddol (e.e. mis) fel ei bod yn glir i’r darllenydd ar beth mae’n edrych.
Y prif wahaniaeth wrth luniadu graff llinell yn hytrach na siart bar yw eich bod yn rhoi dot neu groes fach i gynrychioli pob darn o wybodaeth, yn hytrach na bar. Yna rydych yn uno’r dotiau â llinell. Mae cryn drafodaeth ynghylch a ddylid cysylltu’r dotiau â llinell grom neu â llinell syth. Er gwaethaf y dadlau hallt, y consensws cyffredin yw y dylid uno’r dotiau â llinellau syth.
Activity _unit5.5.1 Gweithgaredd 9: Lluniadu graff llinell
Rhowch gynnig ar luniadu graff llinell i gynrychioli’r data isod.
Mae’r tabl isod yn dangos y tymereddau yn Ninbych y Pysgod yn ystod pythefnos cyntaf mis Gorffennaf 2018.
Dyddiad | Tymheredd Uchaf ˚C | Tymheredd Isaf ˚C |
---|---|---|
01/07/2018 | 25 | 15 |
02/07/2018 | 28 | 17 |
03/07/2018 | 29 | 12 |
04/07/2018 | 24 | 15 |
05/07/2018 | 26 | 13 |
06/07/2018 | 22 | 12 |
07/07/2018 | 23 | 12 |
08/07/2018 | 27 | 12 |
09/07/2018 | 26 | 14 |
10/07/2018 | 24 | 14 |
11/07/2018 | 22 | 14 |
12/07/2018 | 22 | 7 |
13/07/2018 | 24 | 12 |
14/07/2018 | 25 | 20 |
- Mae gan siop ddillad fannau gwerthu yn Llandudno ac yn Aberystwyth. Defnyddiwch y data yn y tabl isod i luniadu graff llinell yn cymharu’r gwerthiannau misol rhwng mis Ionawr a mis Mehefin.
Mis | Ion | Chwe | Maw | Ebr | Mai | Meh | |
---|---|---|---|---|---|---|---|
Gwerthiannau (£000)
|
Llandudno | 29 | 15 | 19 | 20 | 23 | 24 |
Aberystwyth | 25 | 10 | 16 | 16 | 21 | 26 |