5.2 Dehongli graffiau llinell
Mae dehongli graffiau llinell hefyd yn debyg iawn i’r ffordd rydych yn dehongli siartiau bar; mae’n fater o ddefnyddio’r graddfeydd ar y graff i ganfod gwybodaeth.
Gan eich bod eisoes wedi dysgu ac ymarfer dehongli siartiau bar, gallwch fynd yn syth at weithgaredd ar ddehongli graffiau llinell.
Activity _unit5.5.2 Gweithgaredd 10: Graff llinell poblogaeth
Mae’r graff yn dangos gwybodaeth am boblogaeth pentref mewn miloedd dros gyfnod o amser.
a.Beth oedd poblogaeth y pentref yn 1991?
b.Beth oedd y cynnydd yn y boblogaeth rhwng 1981 a 2011?
c.Faint ddisgynnodd y boblogaeth rhwng 1991 a 2001?
Ateb
- a.8000 oedd y boblogaeth yn 1991.
- b.6000 oedd y boblogaeth yn 1981, 10 000 oedd y boblogaeth yn 2011. Mae hwn yn gynnydd o 10 000 − 6000 = 4000.
- c.8000 oedd y boblogaeth yn 1991 ac roedd yn 7000 erbyn 2001. 8000 − 7000 = 1000. Felly disgynnodd y boblogaeth 1000.
Cadwodd Campfa Ceri gofnod o nifer ei haelodau yn ystod 2018.
Mae’r graff isod yn dangos gwybodaeth am y canlyniadau.
- a.P’un oedd yr unig fis pan oedd mwy o aelodau benyw nag aelodau gwryw?
- b.Amcangyfrifwch y gwahaniaeth yn niferoedd yr aelodau ym mis Hydref.
- c.Ym mha fis oedd y gwahaniaeth lleiaf rhwng niferoedd y gwrywod a’r benywod?
Ateb
- a.Ionawr
- b.Caniateir 13 (+/− 1) gan fod y cwestiwn hwn yn amcangyfrif
- c.Tachwedd
Sut hwyl gawsoch chi? Gobeithio eich bod wedi gallu ateb yr holl gwestiynau heb ormod o drafferth. Cyn belled â’ch bod wedi gweithio allan y raddfa’n gywir ac wedi darllen y cwestiwn yn ofalus, nid yw’n rhy gymhleth.
Erbyn hyn rydych wedi edrych ar bob lluniad ac wedi dehongli pob math o siart a graff, felly mae’n bryd symud ymlaen i edrych ar ffyrdd eraill o ddefnyddio data: cyfartaleddau ac amrediad.
Crynodeb
Yn yr adran hon, rydych wedi dysgu:
- pa fathau o ddata y gellir eu cynrychioli’n addas gan graff llinell a pha fathau sy’n fwyaf addas ar gyfer mathau eraill o siartiau.
- sut i ddehongli’r wybodaeth a ddangosir ar graff llinell
- sut i luniadu graff llinell cywir ar gyfer set penodol o ddata.