Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

1 Mentora strategol

Gall fod yn anodd cydbwyso bod yn fentor effeithiol a chadw ar flaen y gwaith papur a’ch llwyth gwaith addysgu eich hun. Os yw’r sawl sy’n cael ei fentora yn gwneud cynnydd da, yna gall fod yn fuddiol tu hwnt, ond os ydyw ar ochr arall y sbectrwm, yna bydd rhai yn dyblu’ch llwyth gwaith ac yn cyflwyno sawl her i chi. Fel mentor, gallwch chi fod y gwahaniaeth sy’n atal myfyriwr dawnus rhag rhoi’r ffidil yn y to pan mae pethau’n mynd yn anodd, neu gallai fod yn ofynnol i chi gael sgyrsiau anodd ynghylch gyrfaoedd eraill. Ar y cyfan, os yw’r cydbwysedd yn gywir gennych chi, does dim gwell na galluogi eraill i lwyddo.

Fel mentor, rhaid i chi fod ar gael: sicrhewch eich bod yn gwneud amser i weld sut mae pethau’n mynd ac i sefydlu a oes angen addasu unrhyw gynllunio. Serch hynny, rhaid i chi osod ffiniau: efallai y byddwch yn caniatáu i’r athro ar ddechrau ei yrfa gysylltu â chi gyda’r nosau ac ar benwythnosau, ond dim ond pan ydych chi’n dweud. Byddwch yn strategol, oherwydd bodau dynol ydych chi a’r athro ar ddechrau ei yrfa.

Ffigwr 2 Mae cael y cydbwysedd cywir yn allweddol ar gyfer mentor llwyddiannus

Byddwch yn rhoi adborth a fydd yn heriol ar adegau ac y gellid ei ystyried yn negyddol. Er ei bod yn bwysig pwysleisio cryfderau eich athrawon ar ddechrau eu gyrfa, gan y gallant fod yn galed arnyn nhw eu hunain yn aml, yn enwedig pan mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn ei chael hi’n anodd gyda dosbarth neu grŵp o ddysgwyr. Mae’n bwysig peidio â gorliwio nodweddion cadarnhaol er mwyn gwneud iawn am wendidau sylweddol. Byddwch yn sensitif pan mae gwers yn mynd o chwith: cyn belled â nad yw’n digwydd yn rheolaidd, addysgwch eich athro ar ddechrau ei yrfa i ddysgu o’i brofiadau. Anogwch hunan-fyfyrio ac ailadroddwch ba mor heriol yw’r swydd (ond gwerth chweil ar yr un pryd).

Mae bod yn strategol hefyd yn golygu cydnabod pan fyddai anghenion yr athro ar ddechrau ei yrfa yn cael eu bodloni’n well gan rywun arall yn yr ysgol, neu’r tu hwnt i’r ysgol. Dylid ystyried mentora yn swydd ysgol gyfan a dylai’r ysgol gyfan ddathlu ei lwyddiant. Chwiliwch am gyfleoedd i ddatblygu’r athro ar ddechrau ei yrfa: os oes gan ysgol gyfagos ddarpariaeth wych Saesneg fel Iaith Ychwanegol, yna trefnwch ymweliad yno. Os oes angen iddo weld addysg gorfforol mewn cam allweddol arall, anogwch ef i drefnu hynny. Peidiwch â gwneud popeth drosto. Gwiriwch ei ffolderi a’i waith papur yn rheolaidd yng nghyfarfodydd mentor, ond rhaid iddo ef wirio ei fod wedi addysgu/arsylwi’r gwersi cywir er mwyn cyflawni aseiniadau neu fodloni safonau ei hun.