Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

1.1 Mentora ar gamau gwahanol

Ystyr mentora yn strategol yw darparu’r mentora neu’r hyfforddiant sydd ei angen ar yr athro ar ddechrau ei yrfa ar adeg benodol yn ei yrfa. Ystyriwch sefyllfa lle mae dau athro ar ddechrau eu gyrfa ar wahanol adegau yn eu hastudiaethau yn eich ysgol, a chi sy’n fentor ar y ddau ohonynt. Mae un myfyriwr yn mynd y tu hwnt i ddisgwyliadau (lleoliad ysgol cyntaf ar raglen rhan amser) ac mae’r llall yn gwneud y lleiaf posibl i fodloni’r gofynion dymunol (ail leoliad ysgol yn agosáu at ddiwedd ei gwrs). Sut ydych chi’n sicrhau bod y ddau yn parhau i wneud cynnydd?

Mae sicrhau bod y ddau fyfyriwr yn cael eu trin fel unigolion yn hollbwysig, ac mae hyn yn golygu osgoi cymariaethau a thrafodaethau grŵp wrth roi adborth, gan y byddai hynny’n anfoesol. Yn ogystal, bydd angen i chi ddatblygu dealltwriaeth glir am ddisgwyliadau pob lefel astudiaeth, gan y bydd hyn yn hollbwysig er mwyn cynghori a gosod targedau priodol a chyraeddadwy. Mae’n bwysig sicrhau bod pob myfyriwr yn cael cyfleoedd priodol i arsylwi, fel bod y ddau fyfyriwr yn gallu elwa o weld aelod profiadol o staff wrth ei waith, a dysgu ganddo. Bydd angen i chi gymryd rhan mewn trafodaethau gyda chydlynydd / tiwtor ymarfer yr ysgol yn ystod ymweliadau i gael hyfforddiant personol ar ymdrin â’r amgylcheddau heriol ynghlwm.

Gweithgaredd 1 Mentora personoledig

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud

Ystyriwch y sefyllfa a nodir uchod, sut fyddech chi’n sicrhau dull gweithredu personol ar gyfer pob athro ar ddechrau ei yrfa?

Ysgrifennwch ddisgrifiad byr o 200 gair yn egluro’ch ymateb.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Bydd ystyried y gwerthoedd sydd gennych chi fel mentor a’r egwyddorion yr ydych yn dymuno gweithredu oddi mewn iddynt yr un mor bwysig pan fyddwch yn ymdrin â sefyllfaoedd anodd a chefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa. Bydd yr adran nesaf yn eich helpu chi i bennu’ch egwyddorion.