Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

2 Egwyddorion mentora effeithiol

Mae bod yn fentor effeithiol yn gofyn cryn dipyn gan unrhyw un sy’n ymgymryd â’r rôl hon, a rhaid i’w ysgol ddeall graddau’r disgwyliadau. Yn yr adran hon, ceir eglurhad o egwyddorion mentora effeithiol.

Gwyliwch y fideo o Dr Matthew Dicken yn amlinellu 12 egwyddor mentora.

Download this video clip.Video player: Fideo 1
Copy this transcript to the clipboard
Print this transcript
Dangos y trawsgrifiad | Cuddio'r trawsgrifiad
Fideo 1 Dr Matthew Dicken
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

12 egwyddor mentora

  • 1 Atebolrwydd a chyfrifoldeb: Rôl y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yw cadw ei gilydd yn gyfrifol am y rolau a chyfrifoldebau yr ymgymerir â nhw.
  • 2 Ymrwymiad a diwydrwydd: Rôl y ddwy ochr yw bod yn ymrwymedig a diwyd. Rhaid i’r sawl sy’n cael ei fentora fod yn ddiwyd o ran cyflawni ei nod. Rhaid i’r mentor fod yn ymrwymedig a diwyd o ran dangos ei fod yn gwerthfawrogi’r sawl sy’n cael ei fentora.
  • 3 Cyfathrebu a chydweithio: Mae trafodaeth ffurfiol a sgwrsio anffurfiol yn allweddol i lwyddiant y fframwaith hwn. Rhaid i’r ddwy ochr geisio cadw’r sianelau cyfathrebu yn agored a datrys gwahaniaethau petaent yn codi.
  • 4 Dealltwriaeth a magu perthynas: Wrth i’r mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora ddod i nabod ei gilydd, mae’n bwysig eu bod yn dangos diddordeb yn y naill a’r llall ac yn ceisio deall ei gilydd gydag empathi.
  • 5 Anogaeth ac adborth: Rôl y mentor yw bod yn gytbwys wrth roi adborth drwy annog a gweithio ar feysydd o wendid a datblygiad posibl. Rôl y sawl sy’n cael ei fentora yw derbyn adborth yn gadarnhaol.
  • 6 Ymddiriedaeth a gonestrwydd: Wrth drafod, mae’n bwysig bod y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yn ymddiried yn y naill a’r llall, ac felly’n rhannu’n onest.
  • 7 Annibyniaeth: Rôl y sawl sy’n cael ei fentora yw meddwl drosto ei hun a rôl y mentor yw peidio â bod yn rhy awdurdodol ac yn rhy orchmynnol yn ei agwedd.
  • 8 Arloesedd a pharodrwydd i newid: Rôl y sawl sy’n cael ei fentora a’r mentor yw meddwl am gyfeiriadau a syniadau newydd. Mae’n gyfrifoldeb ar y mentor i fod yn barod i newid a datblygu.
  • 9 Integriti a rhagoriaeth: Rôl y ddwy ochr yw gwneud y peth iawn, a gwneud hynny hyd eithaf eu gallu. Dylai’r mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora gael eu hannog gan y cysyniad o ymdrechu i gyflawni rhagoriaeth.
  • 10 Cymhelliant ac ysgogiad: Mae’n bwysig bod y sawl sy’n cael ei fentora a’r mentor yn parhau gyda’u ffocws a’u bwriad o ran y ffordd maen nhw’n meddwl a’u gweithredoedd.
  • 11 Myfyrio a gwerthuso: Rolau’r ddau unigolyn yw treulio amser yn myfyrio a meddwl yn fwriadol am y syniadau sy’n deillio o’r drafodaeth. Yn yr un modd, rôl y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yw gwerthuso datblygiadau.
  • 12 Goddefgarwch a pharch: Mae gan bob un ohonom safbwyntiau a chredoau gwahanol. Felly rôl y mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yw gwerthfawrogi barn a phersbectif ei gilydd.

Gweithgaredd 2 Deuddeg egwyddor mentora

Timing: Caniatewch oddeutu 10 munud

Rhowch yr egwyddorion yn nhrefn eich blaenoriaethau personol, yn ôl eich anghenion fel ysgol:

Atebolrwydd a chyfrifoldeb; Ymrwymiad a diwydrwydd; Cyfathrebu a chydweithio; Dealltwriaeth a magu perthynas; Anogaeth ac adborth; Ymddiriedaeth a gonestrwydd; Annibyniaeth; Arloesedd a pharodrwydd i newid; Integriti a rhagoriaeth; Cymhelliant ac ysgogiad; Myfyrio a gwerthuso; Goddefgarwch a pharch.

Gallwch eu teipio neu gopïo’r rhestr i’r blwch isod.

I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Mae mentora yn gofyn ymdrech egwyddorol, yn enwedig wrth ymdrin â’r anawsterau mae athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn eu hwynebu ar adegau, ond mae’n rôl werth chweil. Mae’r adran nesaf yn ystyried y gwobrau posibl.