3 Mentora: beth sydd ynddo i mi?
Yn aml, ystyrir mentora yn rôl werthfawr yn natblygiad proffesiynol athrawon. Mae gwybodaeth ac arbenigedd mentor yn rhoi cyfoeth o gyfleoedd i’r athrawon ar ddechrau eu gyrfa i ddysgu ganddo yn ystod camau cynnar eu gyrfa (Arolygiaeth Ei Mawrhydi dros Addysg yr Alban, 2008) ac fel a welwyd yn Wythnos 2, mae’n broses ddwy ffordd lle mae myfyrwyr yn dysgu gan fentoriaid a mentoriaid yn dysgu gan eu myfyrwyr. Mae mentora yn gofyn amlygu beth sydd wedi bod tan rŵan yn wybodaeth ddealledig, a dealltwriaeth o’r ffordd mae’r dosbarth yn gweithio a’r athro oddi mewn iddo. Bydd mentoriaid yn datblygu dealltwriaeth well am eu harbenigedd eu hunain, sydd yn ei dro yn rhoi hyder i’r mentor wrth iddo weithio gyda’r athro ar ddechrau ei yrfa yn yr ysgol ac yn ei rolau ehangach o fewn yr ysgol ac ar draws ysgolion.
Gweithgaredd 3 Buddion mentora
Gwyliwch y fideo o Sarah Jennings yn trafod manteision mentora.
![](https://www.open.edu/openlearn/pluginfile.php/3452718/mod_oucontent/oucontent/113073/fa361ef3/2486bbb6/wk4_act3_poster_image.jpg)
Transcript: Fideo 2 Sarah Jennings
Fel mentor, mae datblygiad proffesiynol parhaus a chyfleoedd rhwydweithio yn rhan o’r rôl. Yn aml, mae monitro yn mynd y tu hwnt i giatiau’r ysgol, ac yn caniatáu cyfleoedd i gydweithio gyda rhanddeiliaid allanol a sefydliadau ac unigolion eraill. Bydd mentoriaid yn aml yn cydweithio gydag ysgolion eraill, gan eu caniatáu i rannu arbenigedd a chefnogaeth. Gall mentora hefyd wella ymdrech rhywun i fyfyrio a’i ffordd o weithio drwy arsylwi a thrafod. Gall hefyd fod yn gyfle i wella eich datblygiad gyrfa, a chreu rhwydweithiau helaethach, fel y gwelir yn yr enghraifft isod. Mae mentoriaid yn helpu’r athro ar ddechrau ei yrfa i ddeall a defnyddio ymchwil i arloesi ei addysgu, a chydweithio o bosibl mewn prosiectau ymchwil weithredu yn ei ysgol a thu hwnt drwy gydweithio â sefydliadau partner.
Gweithgaredd 4 Myfyrio ar eich ymarfer mentora eich hun
Tasg 1
Gwyliwch y fideo o ysgol Rhian, yn nodi ei chryfderau o ran mentora, ac yna ail-ymwelwch â’ch meysydd cryfder o ran mentora drwy gwblhau Tasg 2.
![](https://www.open.edu/openlearn/pluginfile.php/3452718/mod_oucontent/oucontent/113073/fa361ef3/e023f530/wk4_act4_poster_image.jpg)
Transcript: fideo 4 Rhian Edwards-Jones
Tasg 2
Yn Wythnos 1, gwnaethoch asesiad o’ch meysydd cryfder personol a lle mae angen i chi ddatblygu’ch sgiliau. Nawr eich bod wedi gwylio’r fideos uchod ac wedi gweithio drwy weddill y cwrs, efallai eich bod wedi newid eich hunan-asesiad. Myfyriwch eto ar yr agweddau gwahanol ar rôl mentor ac addaswch eich asesiadau yn ôl yr angen. Ystyriwch beth allech chi ei wneud i barhau i ddatblygu’ch dysg a’ch sgiliau ym mhob maes.
Sgiliau mentora | 1 Ddim yn gryf iawn |
2 | 3 | 4 | 5 Cryf iawn |
Beth allaf i ei wneud i barhau i ddatblygu fy nysg a’m sgiliau yn y maes hwn? |
Gallaf fod yn esiampl dda. | ||||||
Gallaf ennyn brwdfrydedd yr athro ar ddechrau ei yrfa mewn perthynas â’r cynnwys sydd i’w addysgu. | ||||||
Gallaf helpu athrawon ar ddechrau eu gyrfa i ddeall y cyd-destun ysgol a sut mae hyn yn effeithio ar ymarfer. | ||||||
Rwy’n cydnabod pa bryd mae angen i mi dynnu ar arbenigedd cydweithwyr eraill i gefnogi anghenion yr athro ar ddechrau ei yrfa. | ||||||
Rwy’n agored i gyfleoedd dysgu proffesiynol, gan gynnwys archwilio ymchwil. | ||||||
Drwy fy mentora, gallaf ddatblygu ansawdd a manylder myfyrio fy athro ar ddechrau ei yrfa. | ||||||
Rwy’n gosod targedau SMART i gefnogi fy athro ar ddechrau ei yrfa i ddatblygu a bodloni safonau proffesiynol. | ||||||
Rwy’n deall sut mae asesu cynnydd fy athro ar ddechrau ei yrfa yn effeithiol a manwl gywir. | ||||||
Rwy’n arsylwi ymarfer fy athro ar ddechrau ei yrfa i roi adborth defnyddiol i atgyfnerthu ei ddysg addysgegol. | ||||||
Rwy’n hwyluso amrywiaeth o brofiadau datblygu ar draws yr ysgol i gefnogi anghenion ymarfer fy athro ar ddechrau ei yrfa. | ||||||
Rwy’n gyfarwydd gydag addysg gychwynnol i athrawon neu ddyluniad rhaglen sefydlu fy athro ar ddechrau ei yrfa, yn ogystal â’r gofynion a’r dulliau asesu. | ||||||
Rwy’n cynllunio cyfleoedd a dulliau penodol i gynnig cefnogaeth a herio fy athro ar ddechrau ei yrfa. |
Tasg 3
Meddyliwch am dri phwynt y canolbwyntiwyd arnynt yn ystod y cwrs hwn sydd wedi cael – neu a fydd yn cael – yr effaith fwyaf ar eich dealltwriaeth a’ch ymarfer. Nodwch y tri phwynt hyn yn y blwch isod.
Bydd gennych gryfderau i’w cyfrannu at rôl mentor, a meysydd y mae angen i chi eu datblygu. Weithiau, gallech hyrwyddo myfyrio a gwrando’n well petai gennych yr amser. Felly, efallai fod hon yn sgwrs y mae angen i chi ei chael gyda thîm arwain eich ysgol. Wedi dweud hynny, mae mentora yn rôl werth chweil, a bydd wastad yn rôl werth chweil, ac yn werth yr amser a’r ymdrech yr ydych yn ei chyfrannu i fod y mentor gorau o fewn eich gallu.