Crynodeb o’r cwrs
Ystyrir bod mentora yn waith gwerthfawr a gwerth chweil i athrawon, ac yn waith sy’n cynnig manteision y tu hwnt i’r buddion uniongyrchol. Drwy gydol y cwrs hwn, cyflwynwyd nifer o gyfleoedd posibl ar gyfer ymarfer trawsffurfiol, gan eich galluogi chi i ennill gweledigaeth gliriach o rôl mentora yn eich lleoliad a sut all gyfrannu at ddilyniant staff a myfyrwyr fel ei gilydd. Gall mentora fod yn rhan o ddiwylliant eich ysgol eisoes, ond gobeithio bod y cwrs hwn wedi cyfnerthu’ch dealltwriaeth ac wedi ysgogi awydd i gyfoethogi’ch ymarfer ymhellach a chymryd rhan mewn cyfleoedd mentora.