Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

1 Hyfforddi mewn ysgol

Mae gan y termau ‘hyfforddwr’ a ‘mentor’ ddiffiniadau gwahanol ym meysydd gwahanol: maen nhw’n golygu rhywbeth gwahanol yng nghyd-destun addysgiadol mewn cymhariaeth â busnes, cwnsela neu chwaraeon, er enghraifft. Hyd yn oed yn y byd addysg, ceir dehongliadau gwahanol o’r rolau mentora a hyfforddi. Mae Lancer, Clutterbuck a Megginson (2016) yn credu bod dryswch rhwng y termau oherwydd natur gymhleth hyfforddi a mentora, ac oherwydd yr amrywiaeth eang o ddulliau hyfforddi a mentora, gydag elfennau o’r rhain yn gorgyffwrdd.

Fel athro profiadol yn cefnogi datblygiad proffesiynol athro ar ddechrau ei yrfa, efallai eich bod wedi cael cyfle i weithio gyda gwahanol ddarparwyr addysg gychwynnol i athrawon. Wrth wneud hynny, byddwch yn dod ar draws toreth o labelau ar gyfer rolau mentor/hyfforddwr. Mewn adolygiad o lyfryddiaeth ynghylch darpariaeth mentora yng Nghymru, dyma’r termau mwyaf cyffredin a ddefnyddir: athro cydweithredol; athro mentor; goruchwyliwr ac aseswr (Bethelletal ., 2020). Yn yr un modd, mae athrawon ar ddechrau eu gyrfa yn cael eu galw yn ôl termau amrywiol, gan gynnwys: athro dan hyfforddiant; athro ar ddechrau ei yrfa neu athro cychwynnol (Hobson a Malderez, 2013).

I gynorthwyo gyda deall sut mae hyfforddi yn wahanol i fentora, bydd y cwrs hwn yn tynnu ar ymchwil Lofthouse et al. (2010) ynghylch datblygu hyfforddiant ymhlith athrawon. Darllenwch y dyfyniad canlynol i’ch cynorthwyo chi i gwblhau Gweithgaredd 1.

Derbynnir yn gyffredinol bod monitro fel arfer yn digwydd mewn digwyddiadau arwyddocaol mewn gyrfa, megis sefydlu ac ymgymryd â rolau newydd. Mae elfen o gyfyngu yn perthyn i’r rôl a chan amlaf, mae’r mentor yn unigolyn uwch yn y sefydliad ac yn wir mae cymhelliad cyfundrefnol dros y broses. Mae hyfforddi ... yn ymwneud â datblygu sgiliau drwy arbrofi pwrpasol gyda strategaethau newydd yn y dosbarth, ac yn aml ei nod yw cynorthwyo gyda datblygu diwylliannau agored a chydweithredol. Nid oes rhaid i hyfforddwyr fod yn aelodau uwch o staff, dim ond rhywun sydd ag arbenigedd penodol a dylent fod yn gefnogol, nid beirniadol.

Lofthouse et al., 2010, t. 7

Gweithgaredd 1 Mentora neu hyfforddi?

Timing: Caniatewch oddeutu 10 munud

I gyfnerthu’ch dealltwriaeth am sut all hyfforddi a mentora fod yn wahanol i’w gilydd, darllenwch y sefyllfaoedd cryno isod a nodwch pa un ai a ydych yn credu eu bod yn enghreifftiau o fentora neu hyfforddi.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is a.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is a.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is b.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is a.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is b.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is b.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is a.

a. 

Mentora


b. 

Hyfforddi


The correct answer is b.

Mae’r gweithgaredd hwn wedi dangos rhai agweddau a fydd yn cael eu defnyddio i wahaniaethu mentora a hyfforddi ar y cwrs hwn, yn ogystal â pha rôl sydd fwyaf priodol ar adegau gwahanol er mwyn galluogi athro ar ddechrau ei yrfa i ddechrau ymarfer yn ymreolaethol. Bydd yr adran nesaf yn trafod rhagor ynghylch hyfforddi.