2.1 Darparu heriau priodol
Yn yr un modd ag Wythnos 2, boed ydych am weithredu fel mentor neu hyfforddwr, mae angen cydbwyso cefnogi a herio.
Mae darparu’r her ddigonol yn cael ei ystyried fel chwarae ‘rôl hollbwysig yn cefnogi dysg athrawon dan hyfforddiant’ (Mutton, Burn a Hagger, 2008, t. 78). Wrth i chi anelu at ddarparu’r her briodol, mae ymchwil yn dangos y dylai ymarfer effeithiol gynnwys:
- datblygu gwybodaeth ac arbenigedd mewn modd cynyddol a systematig (da Cunha, Batista a Graca, 2018)
- sicrhau y darperir arweiniad a chefnogaeth (Lofthouse a Thomas, 2017)
- ymgymryd â dull cydweithredol a chyd-holi.
O fewn yr ymarferion hyn, ystyrir bod deialog broffesiynol a defnydd effeithiol o gwestiynu yn elfennau allweddol (Cheliotes a Reilly, 2010; Fletcher, 2012).