Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

3 Deialog hyfforddi

Yn yr adran hon, byddwch yn ystyried sut all hyfforddwr gefnogi datblygiad proffesiynol annibynnol gan ddefnyddio cwestiynau gofalus yn hytrach na chynnig datrysiadau. Mae sgwrs rhwng hyfforddwr a’r hyfforddai yn dod yn ‘sgwrs hyfforddi’ pan mae ar ffurf deialog broffesiynol yn hytrach na chael sgwrs yn ôl yr angen (Cheliotes a Reilly, 2010).

Dylai ‘sgwrs hyfforddi’:

  1. fod â phwrpas/bwriad
  2. canolbwyntio ar yr hyfforddai, ei gryfderau a’i heriau
  3. anelu at sicrhau datblygiad proffesiynol a newid.

(Yn seiliedig ar Cheliotes a Reilly, 2010, t. 3)

Weithiau, gallech wynebu sefyllfa sy’n destun pryder i chi. Yn yr achosion hyn, bydd angen i chi newid tacteg ac ail-afael yn eich rôl mentora eto. Mae’n bosibl y bydd angen arweiniad penodol gan y gallai’r athro ar ddechrau ei yrfa fod yn ansicr ynghylch sut mae datblygu ei ymarfer. Wedi dweud hynny, dylid bod yn gefnogol wrth roi’r arweiniad. Gellir defnyddio sawl un o egwyddorion deialog effeithiol wrth ymgymryd â rôl naill ai mentor neu hyfforddwr.

Mae holi yn rhan ganolog yn y ddeialog rhwng hyfforddwr a hyfforddai, gan fod modd amlygu syniadau a gweithredoedd wrth gwestiynu (Fletcher, 2012). Gall gofyn cwestiynau agored gefnogi’r ymarfer o fyfyrio ar brofiad dysgu. Ni ddylai’r hyfforddwr gynnig datrysiadau. Gall rhoi cyngor danseilio hyder – dylid ystyried yr hyfforddai yn ddigon galluog i ddod o hyd i’w ddatrysiadau ei hun (Cheliotes a Reilly, 2010, t. 13). O ganlyniad, ni ddylai cwestiynau arwain yr hyfforddai i un ffordd o feddwl na mynegi beirniadaeth.

Yn y gweithgaredd nesaf, ystyriwch sut allech chi addasu’r cwestiynau i symud o bersbectif rhoi cyngor i un sy’n annog dysg.

Gweithgaredd 2 Deialog hyfforddi

Timing: Caniatewch oddeutu 30 munud

Rôl yr hyfforddwr yw magu hyder ac ymreolaeth, drwy bwysleisio bod yr hyfforddai yn gallu dod o hyd i’w ddatrysiadau ei hun. Darllenwch bob un o’r cwestiynau canlynol ac ystyriwch sut allant danseilio hyder athro ar ddechrau ei yrfa.

  1. Wyt ti’n credu y gallai newid grwpiau disgyblion gynorthwyo gyda phroblemau rheoli dosbarth?
  2. Wyt ti wedi meddwl am roi mwy o amser meddwl i ddisgyblion?
  3. A wyt ti’n ymwybodol o’r amrywiaeth o dechnegau Asesu ar gyfer Dysgu yr ydym yn eu defnyddio yn yr ysgol?
  4. A fyddet ti’n cytuno bod angen addasu’r sesiwn?
  5. Beth am gynnwys mwy o weithgareddau dysgu drwy brofiad yn dy sesiynau?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Discussion

  1. Dyma enghraifft o gwestiwn arweiniol. Mae’r hyfforddwr yn rhoi awgrym cryf o’r cam gweithredu hanfodol.
  2. Gyda’r math hwn o gwestiwn awgrymog, mae’r hyfforddwr yn rheoli cyfeiriad y drafodaeth.
  3. Gallai’r cwestiwn hwn danseilio hyder gan ei fod yn awgrymu bod y defnydd o Asesu ar gyfer Dysgu yn gyfyngedig.
  4. Cwestiwn awgrymog arall, yn cyfleu barn negyddol o’r sesiwn.
  5. Gellid dehongli hwn fel datganiad bron iawn; mae’r hyfforddwr yn arwain yr agenda a chyfeiriad y newid.

Nawr, ystyriwch y cwestiynau o bersbectif hyfforddi. Ail-eiriwch y cwestiynau er mwyn gwella ansawdd y ddeialog a’r gefnogaeth anfeirniadol a roddir.

  1. Wyt ti’n credu y gallai newid grwpiau disgyblion gynorthwyo gyda phroblemau rheoli dosbarth?
  2. Wyt ti wedi meddwl am roi mwy o amser meddwl i ddisgyblion?
  3. A wyt ti’n ymwybodol o’r amrywiaeth o dechnegau Asesu ar gyfer Dysgu yr ydym yn eu defnyddio yn yr ysgol?
  4. A fyddet ti’n cytuno bod angen addasu’r sesiwn?
  5. Beth am gynnwys mwy o weithgareddau dysgu drwy brofiad yn dy sesiynau?
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Er bod gofyn y cwestiynau cywir yn y ffordd gywir yn bwysig o ran sefydlu deialog hyfforddi, gall gwrando ar beth mae’r athro ar ddechrau ei yrfa yn ceisio ei drafod fod yn bwysicach. Mae’r adran nesaf yn trafod y gelfyddyd o wrando.