4 Y gelfyddyd o wrando
Pan ofynnir cwestiwn, mae gwrando ar yr ateb yn hollbwysig i sefydlu’r ddeialog wir. Er bod y gallu i wrando yn ymddangos yn syml a rhwydd, gall fod yn arbennig o anodd gwrando go iawn ar rywun – heb dorri ar draws neu ymatal rhag cynnig awgrymiadau heb eu hangen o bosibl.
Mae gwrando heb farnu yn sicrhau bod gan yr hyfforddai le i fyfyrio a meddwl am ei weithredoedd neu gamau nesaf. O fewn deialog hyfforddi, ystyrir bod gallu’r hyfforddwr i wrando yn bwysig tu hwnt (Cheliotes a Reilly, 2010; Whitmore, 2010).
Yn ogystal, ystyrir y syniad o wrando ‘ymroddedig’ yn rhan hollbwysig o ‘ddatblygu ymddiriedaeth yn y berthynas’ (Cheliotes a Reilly, 2010, t. 25). Nid yw gwrando’n astud o’r fath yn golygu eich bod o reidrwydd yn cytuno â phopeth sy’n cael ei ddweud, ond eich bod yn osgoi barnu ac yn dangos parch tuag at safbwyntiau’r llefarwr (Edge, 2015).
Gweithgaredd 3 Datblygu sgiliau gwrando
Nod y gweithgaredd hwn yw eich cynorthwyo chi i fyfyrio ar eich ymarferion gwrando. Nid tasg hawdd mo gwrando:
- gydag empathi
- yn barod i ganiatáu tawelwch
- heb gynnig eich barn a’ch safbwyntiau personol.
Gwyliwch y fideo canlynol ac yna gwnewch restr o bedwar neu bum pwynt gweithredu a allai eich helpu chi i ddod yn hyfforddwr gwrando (sicrhewch eich bod yn agor y ddolen hon mewn tab/ffenestr newydd er mwyn i chi allu dychwelyd i’r dudalen hon yn ddidrafferth).
Sut i Wella’ch Sgiliau Gwrando [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)]Mae sefydlu deialog hyfforddi yn ei gwneud hi’n ofynnol i chi ofyn y cwestiynau cywir a gwrando ar yr atebion. Yn yr adran nesaf, trafodir dau fodel a all eich cefnogi chi yn y dasg anodd o sefydlu deialog hyfforddi.