5 Strwythuro’r ddeialog
Gall fod yn heriol ymgysylltu â sgyrsiau gyda’r nod o gefnogi gwelliant addysgiadol (Earl a Timperley, 2009). Cydnabyddir y cymhlethdodau mae hyfforddwyr yn eu hwynebu ym meysydd eraill ac, o ganlyniad, mae meysydd gwahanol wedi mabwysiadu modelau y gellir eu defnyddio i gefnogi hyfforddwyr. Bydd yr adran hon yn rhoi cyflwyniad bras i ddau fodel a allai eich helpu chi i gynnal eich trafodaethau fel hyfforddwr.