Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Dewch yn fyfyriwr gyda’r Brifysgol Agored

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

5.1 Y model GROW

Wedi’i sefydlu ym maes busnes (Whitmore, 2010), mae’r model hwn wedi’i fabwysiadu gan ysgolion a lleoliadau addysg eraill (Fletcher, 2012). Defnyddir yr acronym fel adnodd pedwar cam i strwythuro’r sgwrs hyfforddi, ond gall y drefn amrywio:

  • G – Gosod targedau (Goal setting). Beth yw nodau’r drafodaeth? Beth yw’r meysydd i’w gwella?
  • R – Y presennol (Reality check). Trafod y sefyllfa bresennol.
  • O – Opsiynau ar gael (Options available). Datrysiadau neu gamau posibl i’w cymryd.
  • W – Cau pen y mwdwl (Wrap up). Beth yw’r camau gweithredu? Pa gamau fydd yn cael eu cymryd – gan bwy ac erbyn pa bryd?

(Yn seiliedig ar Whitmore, 2010, t. 48)