Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

6 Rôl asesu

Yn wahanol i weithgareddau hyfforddi rhwng athrawon cymwys, mae ffurflenni asesu yn rhan bwysig o gefnogi athrawon ar ddechrau eu gyrfa. Gall yr elfen asesu ychwanegu pwysau ar bawb ynghlwm.

Yn addysg gychwynnol i athrawon yn y brifysgol, bydd y mentor neu’r hyfforddwr yn chwarae rôl gymdeithasoli. Y rôl yw cynorthwyo i wneud synnwyr o ddamcaniaeth addysgiadol a dysgu, a hefyd eu cysylltiadau ag addysgeg ac ymarfer. Yn ogystal, gofynnir i fentoriaid/hyfforddwyr yn yr ysgol asesu cymhwysedd yr athro ar ddechrau ei yrfa yn erbyn cyfuniad o safonau (e.e. safonau’r Statws Athro Cymwys). Yn yr achos hwn, maent yn gweithredu fel derbynwyr i’r proffesiwn addysgu.

Wrth asesu athrawon ar ddechrau eu gyrfa, gellir defnyddio technegau hyfforddi i hyrwyddo dysg annibynnol a chydnabod camau nesaf. Canfuwyd bod trafod a chyd-greu dealltwriaeth am sefyllfa yn y dosbarth (h.y. arddull hyfforddi) yn hyrwyddo datblygiad (Furlong a Maynard, 1995).

Ar y llaw arall, gall darparu gormodedd o feirniadaethau a gwerthusiadau fod yn rhwystr i berthnasoedd mentora/hyfforddi yn yr ysgol. Mae mabwysiadu rôl aseswr yn rhoi heriau i’r athro ar ddechrau ei yrfa, ond yn rhoi prin neu ddim cefnogaeth. Yr enw ar hyn yw ‘mentora beirniadol’ (Hobson a Malderez, 2013) ac ystyrir ei fod yn rhwystr i ddysg broffesiynol a llesiant athrawon ar ddechrau eu gyrfa.

Trafodwyd yr angen i gydbwyso cefnogaeth a heriau yn gynharach, ynghyd â rhai technegau a all hyrwyddo trafodaethau proffesiynol mwy cytbwys. Yn ôl ymchwil, mae’r gallu i gyflawni eu rôl heb ofn methu (Bauer et al., 2007), ac yn absenoldeb hinsawdd perfformio (Černe, Jaklič a Škerlavaj, 2013), yn fuddiol i athrawon ar ddechrau eu gyrfa (o ran ymestyn neu herio eu hystod o addysgegau) a’u hysgolion (drwy fod ar flaen tueddiadau ac addysgeg seiliedig ar dystiolaeth ddiweddar).

Mae arsylwi gwersi yn ffurf gyffredin ar asesu ar gyfer athrawon ar ddechrau eu gyrfa. Mae Love (2020) yn adnabod pedwar math allweddol o arsylwi gwersi:

  • absennol
  • creulon
  • colegol
  • archwilio.

Mae myfyrio ar bob un o’r mathau gwahanol hyn o arsylwi gwersi yn ddefnyddiol pan ydych yn ceisio cefnogi athro ar ddechrau ei yrfa. Bydd y gweithgaredd nesaf yn eich cefnogi chi wrth i chi feddwl sut all y ffordd mae arsylwadau yn cael eu gwneud effeithio ar y sawl sy’n cael ei arsylwi.

Gweithgaredd 5 Arsylwi a chefnogi

Timing: Caniatewch oddeutu 20 munud

Mae’r gweithgaredd hwn yn amlinellu nodweddion y pedwar math o arsylwi gwersi a nodwyd gan Love (2020). Wrth i chi ddarllen bob un, ystyriwch y profiad arsylwi o bersbectif y sawl sy’n cael ei arsylwi. Er enghraifft, sut fydd y math hwn o arsylwi ac adborth yn effeithio ar ei ddatblygiad neu ei lesiant?

Ysgrifennwch nodiadau cryno i amlinellu’ch safbwyntiau.

Math o arsylwi Diben tebygol yr arsylwi Nodweddion yr arsylwi Nodweddion yr adborth

Absennol

I wirio bod yr athro yn cyflawni ‘elfennau annerbyniol’ yr ysgol a’r lefel o ymgysylltiad gan y myfyriwr. Arsylwi di-rybudd, galw heibio math o beth, yn para llai nag 20 munud – gellid cael sawl un mewn diwrnod a mwy nag un mewn gwers. Naill ai’n anfodol neu ar y ffurf leiaf bosibl, fel arfer copi o’r pro-fforma arsylwi ynghlwm ag e-bost. Fel arfer, wedi’i raddio o 1–4 yn ôl meini prawf arolygwr.
Effaith bosibl arsylwi absennol ar y sawl sy’n cael ei arsylwi:
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.

Creulon

I asesu gallu athro ac i wirio a ydyw’n cyflawni ‘elfennau annerbyniol’ a’r lefel o ymgysylltiad gan y myfyriwr. Arsylwadau bwriadedig neu ddi-rybudd yn para 20 munud neu hirach. Heb fod yn ddatblygiadol, gydag ychydig neu ddim empathi, mae’r arsylwr yn rhestru’r hyn mae’r athro wedi’i wneud yn anghywir neu heb ei wneud, gyda phrin neu ddim awgrymiadau ar sut i wella. Fel arfer, wedi’i raddio o 1–4.
Effaith bosibl arsylwi creulon ar y sawl sy’n cael ei arsylwi:
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.

Colegol

I gynorthwyo datblygiad athro gyda materion megis ymddygiad neu roi cynnig ar strategaethau addysgu newydd. Wedi cytuno ar amser a’r dosbarth, gallai fod yn arsylwad byr neu hir, yn dibynnu ar y diben cytunedig. Sgwrs ddatblygiadol/dwy ffordd sy’n caniatáu i’r athro egluro ei ddewisiadau a’i bryderon, heb roi gradd.
Effaith bosibl arsylwi colegol ar y sawl sy’n cael ei arsylwi:
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.

Archwilio

I asesu addysgu ar draws yr ysgol. Arsylwadau byr, galw heibio neu ddi-rybudd. Gall fod heb ei raddio, mae fel arfer yn ddatblygiadol gydag awgrymiadau i wella.
Effaith bosibl arsylwi archwilio ar y sawl sy’n cael ei arsylwi:
I ddefnyddio’r ymarferoldeb rhyngweithiol yma, bydd angen cyfrif am ddim gyda’r Brifysgol Agored. Mewngofnodwch neu gofrestrwch.
Interactive feature not available in single page view (see it in standard view).

Yn ddelfrydol, dylai asesu athrawon ar ddechrau eu gyrfa fod yn gyfuniad o fathau arsylwi colegol ac archwilio. Dyma’r agweddau allweddol i’w cynnwys mewn arsylwad effeithiol:

  • diben cytunedig
  • parodrwydd i roi cynnig ar bethau
  • hyrwyddo hunan-barch cadarnhaol
  • adborth adeiladol i gefnogi datblygiad y dyfodol.