Sgipio i'r cynnwys
Mynd i'r prif gynnwys

Ynghylch y cwrs am ddim hwn

Rhannu'r cwrs am ddim hwn

Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)
Meddylfryd mentora (A mentoring mindset)

Dechrau'r cwrs am ddim hwn nawr. Crëwch gyfrif a mewngofnodwch. Ymrestrwch ar y cwrs hwn i olrhain eich dysg.

7 Crynodeb Wythnos 3

Mae’r berthynas gymhleth rhwng mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora yn hynod fuddiol, ac mae’n cynnig gwobrau sylweddol o ran datblygiad proffesiynol y sawl sy’n cael ei fentora a’r mentor. Wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa ddatblygu i ymgymryd â rôl lawn athro, gellid galw’r rôl mae mentor yn ei gymryd yn fwy penodol yn rôl hyfforddi – ac mae ystyr hyn wedi’i drafod yr wythnos hon.

Fel rhan o drafod deialog hyfforddi, pwysleisiwyd y sgiliau allweddol o ofyn y cwestiynau cywir yn y ffordd gywir a gwrando ar yr ateb. Pan mae mentora neu hyfforddi yn cael ei wneud yn fwriadol ac yn empathig, mae ganddo’r gallu i ysbrydoli’r athro ar ddechrau ei yrfa, ac ysgogi’r awydd i fynd ymlaen gyda’i addysgu a’r proffesiwn.

Gallwch nawr fynd ymlaen i Wythnos 4 [Tip: daliwch Ctrl a chliciwch dolen i'w agor mewn tab newydd. (Cuddio tip)] .