1 Datblygu gyda’r sawl yr ydych yn ei fentora – mentora fel proses ddi-dor
Yn gyntaf, rhaid i athro ar ddechrau ei yrfa gynefino ei hun â’r hyn sy’n ddisgwyliedig ohono, y trefniadau yn yr ysgol a sut mae dosbarthiadau yn cael eu trefnu a’u haddysgu. Yn dilyn hynny, ceir cyfnod o sefydlu wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa weithio i ddeall yn fwy eglur ei rôl yn yr ysgol, ac wrth iddo ddod yn fwyfwy ymreolaethol, gan ymgymryd â rôl a chyfrifoldebau athro.
Gellir cysyniadu cynnydd athrawon ar ddechrau eu gyrfa wrth iddynt ddechrau dysgu a datblygu fel a ganlyn:
Pwynt myfyrio
- Sut mae rôl mentor yn newid wrth i’r athro ar ddechrau ei yrfa fynd drwy’r broses ddi-dor hon?
Mae monitro effeithiol ym mhob cam o gynnydd yr athro ar ddechrau ei yrfa yn gofyn cyfuniad o gefnogaeth a herio. Mae mentoriaid da yn cydnabod pa bryd y dylid cefnogi a pha bryd y dylid herio. Yn ôl Daloz (1989), mae cefnogaeth gan fentor yn sylfaen i brofiadau athro ar ddechrau ei yrfa ac yn datblygu ymddiriedaeth, ond mae herio yn gofyn ffydd yn yr athro ar ddechrau ei yrfa. Mae herio weithiau yn golygu cyflwyno syniadau croes a chwestiynu rhagdybiaethau tawel. Gall peth densiwn godi, ond gall hyn gefnogi gyda datblygu gweithredu gan yr athro ar ddechrau ei yrfa . Dadleua Daloz (1989) y gall unrhyw gydgyfnewid rhwng mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora gynnwys herio a chefnogi, ac y dylai gynnwys elfennau o’r fath, a gallai’r hyn mae un athro ar ddechrau ei yrfa yn ei ystyried yn gefnogaeth gael ei ystyried yn her gan un arall. Cyflwyna Ffigwr 2 i awgrymu bod twf yn digwydd pan roddir lefel uchel o herio a lefel uchel o gefnogaeth.
Gweithgaredd 1 Cefnogi neu herio?
Ystyriwch bob sefyllfa a nodwch sut fyddech chi’n cynnig cefnogaeth neu her o bosibl.
Sefyllfa | Cefnogaeth | Her |
Athro ar ddechrau ei yrfa yn dechrau ei leoliad gwaith cyntaf yn cynnig addysgu’r holl wersi ar gyfer dosbarth/pwnc penodol oherwydd ei fod eisiau cyfrannu’n llawn o’r cychwyn cyntaf. | ||
Diffyg hyder gan athro ar ddechrau ei yrfa i addysgu dosbarth/pwnc penodol. | ||
Athro ar ddechrau ei yrfa yn rhoi cerydd i ddysgwr ag anghenion dysgu ychwanegol am beidio â rhoi digon o ymdrech, gan arwain at y dysgwr yn colli hyder a chwyn gan y rhiant. | ||
Athro ar ddechrau ei yrfa eisiau rhoi cynnig ar gyfuniad newydd o adnoddau y mae wedi dod ar eu traws, ond rydych chi’n teimlo y gallant achosi problemau yn un dosbarth. |
Bydd herio a chefnogi’r athro ar ddechrau ei yrfa yr ydych yn ei fentora yn ei helpu i ddatblygu; ac ar yr un pryd, rhaid i’ch sgiliau a’ch galluoedd chi fel mentor ddatblygu. Trafodir hyn nesaf.