1.1 Perthnasoedd mentora: twf fel mentor
Sut all yr herio a’r gefnogaeth yr ydych chi’n ei chynnig fel mentor newid ar gamau gwahanol o daith yr athro ar ddechrau ei yrfa , gan sicrhau ei dwf parhaus fel a nodir yn Ffigwr 2? Sut all y syniadau yn Ffigwr 2 eich helpu chi i barhau i dyfu fel mentor? Pwy all eich cefnogi a’ch herio chi? Sut all cael athrawon ar ddechrau eu gyrfa a mentoriaid ar wahanol gamau o’u datblygiad – er enghraifft, mentor ar gam ymgyfarwyddo gydag athro ar ddechrau ei yrfa sy’n barod i ymarfer yn ymreolaethol – effeithio ar y berthynas?
Dadleua Haggar a McIntyre (2006) na ddylai athrawon ar ddechrau eu gyrfa, wneud y canlynol mewn perthynas fentora:
- cydnabod beth mae angen iddynt ei ddysgu
- gofyn am syniadau neu wybodaeth
- deall sut allant ddefnyddio’r syniadau a gânt o ymarfer athrawon profiadol yn eu haddysgu eu hunain.
Yn eu tro, gall athrawon profiadol gymryd eu ‘harbenigedd tawel a greddfol’ yn ganiataol a pheidio â thynnu sylw at yr hyn sydd angen ei wybod ar yr athro ar ddechrau ei yrfa. Gall hyn olygu na roddir amser i agweddau pwysig, megis rhannu syniadau ynghylch penderfyniadau cynllunio ac addysgu cymhleth. Yn aml, mae’n wir fod athrawon ar ddechrau eu gyrfa eisiau datrysiadau cyflym i broblemau, ond rhaid i fentoriaid roi’r gefnogaeth a’r heriau a fydd yn caniatáu athrawon ar ddechrau eu gyrfa i ddeall natur gymhleth addysgu. Rôl y mentor yw gofyn y cwestiynau sy’n caniatáu i’r athro ar ddechrau ei yrfa dynnu ar y cyd-destunau penodol a arsylwyd a rhesymau’r athro dros ei benderfyniadau, gan ddatblygu dealltwriaeth am wybodaeth ymarferol yr athro. Archwilir hyn ymhellach yn Wythnos 3. Gall trafod y rhesymu sydd wrth wraidd gwneud penderfyniadau fod yn anodd i ddechrau oherwydd natur dawel a greddfol y penderfyniadau hyn, ond ni ellir gorbwysleisio buddion cael trafodaeth benodol ar gefnogi dealltwriaeth athrawon ar ddechrau eu gyrfa ac o ran datblygu ymreolaeth.
Gweithgaredd 2 Perthnasoedd symbiotig
Gwrandewch ar y clip sain byr hwn o Kellie yn trafod y berthynas symbiotig rhwng mentor a’r sawl sy’n cael ei fentora.
Transcript: Fideo 1 Kellie: Perthnasoedd symbiotig
Myfyriwch ar beth mae’n ei olygu i dyfu fel mentor. Sut mae gweithio gyda’ch athro ar ddechrau ei yrfa yn cyfrannu at y twf hwnnw? Beth arall fydd yn eich helpu chi dyfu fel mentor?
Ysgrifennwch ddarn myfyriol ynghylch beth sydd wedi eich cynorthwyo neu a all eich cynorthwyo fel mentor yn y blwch isod. Ystyriwch rannu eich syniadau gyda chyd-fentor neu rywun sydd wedi eich mentora chi a gofynnwch iddo a ydyw’n teimlo’r un fath.
Mae sawl awdur wedi datblygu damcaniaethau sy’n berthnasol i fentora, a fydd yn eich helpu chi i fyfyrio ar y berthynas sydd gennych gyda’ch athro ar ddechrau ei yrfa wrth iddo ddatblygu yn y proffesiwn. Bydd yr adran nesaf yn trafod y damcaniaethau hyn.